A stone cross on a church building Ruth Towell

Diolch am lenwi’r Arolwg Cenedlaethol yr Eglwysi

Diolch am lenwi’r arolwg


Bydd eich ymateb yn darparu tystiolaeth hanfodol i adeiladu darlun cliriach – i adrodd stori gryfach, fwy gwybodus am eich eglwys chi, ac eraill tebyg, fel y gallwn fynd i’r afael gyda’n gilydd â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu eglwysi a helpu i sicrhau eu dyfodol.
 

Gareth Simpson, our Welsh Support Officer, stands at a table filled with 'get support' leaflets and next to a roll up banner describing how the National Churches Trust helps churches.

A wnewch chi gadw mewn cysylltiad?

Bob mis, rydym yn anfon cylchlythyr gyda chyngor am ddim ar gadw eich adeilad ar agor ac mewn cyflwr da. Y tu mewn, fe welwch y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau y gallwch ymgeisio amdanynt, hyfforddiant, cyngor ar ddenu ymwelwyr, ynghyd â blogiau defnyddiol fydd yn eich ysbrydoli ac yn eich annog. Llenwch eich manylion i gadw mewn cysylltiad ac i gael gwybod am ganlyniadau’r arolwg, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref.

A graphic showing the UK and different illustrations of churches.

Helpwch ni i ledaenu’r neges am yr arolwg

Rydym hefyd wedi creu graffeg y gallwch eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ac yn eich cynulleidfa, i ddweud wrthynt am yr arolwg a pham y gwnaethoch chi ei gwblhau. Gallai hyn helpu i annog mwy o eglwysi i gymryd rhan hefyd. Lawrlwythwch a’u cadw drwy glicio’r ddolen isod. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael i chi eu rhannu. Diolch.

Gyda diolch arbennig i Ecclesiastical Insurance ac i Yeomans, sydd wedi gwneud yr arolwg hwn yn bosibl.