Yn diflannu: Beth sydd ar berygl i ddyfodol treftadaeth Cymru
Mae’r Arolwg yn dangos bod 15% o eglwysi’n cynnig addoli dwyieithog, ac mae 12% arall yn defnyddio’r Gymraeg fel y brif iaith. Nid ceidwaid carreg a gwydr lliw yn unig yw mannau addoli yng Nghymru, ond ceidwaid iaith a hunaniaeth, lle mae gwasanaethau’n ymgorffori trysor diwylliannol sy’n unigryw i’r Deyrnas Unedig.
Yn diflannu: Beth sydd ar berygl i ddyfodol treftadaeth Cymru
Yng Nghymru, pan ddaeth Saesneg yn brif iaith addysg a’r gweithle, y capel oedd yn caniatáu i lawer o’r boblogaeth barhau i gwrdd a byw rhan o’u bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y capel sydd wedi sicrhau goroesiad yr iaith hyd heddiw. Mae capeli’n nodwedd ganolog o dirwedd Cymru. Ond am ba hyd? Wrth i gapeli gael eu trosi, eu gwerthu neu eu dymchwel, mae llawer o atgofion diwylliannol Cymru mewn perygl o gael eu colli.
Calon bywyd Cymru
Gan Huw Powell–Davies, o Gapel Bethesda yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Mae Capel Bethesda wedi cael lle amlwg yn hanes hyrwyddo’r iaith Gymraeg yma ar y ffin ac ar hyd a lled Cymru.
Elwodd yr eglwys o gyfraniad llenorion, emynwyr, diwinyddion a newyddiadurwyr a weithiodd drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Pobl fel Thomas Jones, Dinbych, Jane Owen, Roger Edwards a Daniel Owen, a gafodd eu hannog yn Bethesda a’u hysbrydoli gan gymeriadau a bywyd y capel ar gyfer straeon a nofelau.
Yr iaith Gymraeg oedd iaith yr Ysgol Sul o’r dechrau yn 1806. Yn hwyrach, yng nghanol yr 20fed Ganrif, sefydlwyd dosbarth Cymraeg yma a ddatblygodd yn y pen draw i ddwy ysgol Gymraeg yn y dref.
Bu’r capel yn galon bywyd Cymraeg drwy’r blynyddoedd, yn gweu ffydd a diwylliant gyda’i gilydd ac mae’n dal i chwarae ei ran yn y gwaith hwnnw heddiw.
Parhau i ddarllen
Y rhan nesaf yw 'Dygnwch ac adnewyddu: yr her o ofalu am eglwysi'.