Two volunteers at Chorley St Laurence's foodbank The Saltways

Y llinell achub wirfoddolwyr

Mae gwirfoddolwyr yn beiriant cudd bywyd eglwysig ac hebddynt byddai cymaint o agweddau’n dod i stop. Nhw sy’n agor y drysau, yn caniatáu i’r corau ganu, yn dosbarthu bwyd, ac yn creu lleoedd diogel i bobl ifanc berthyn yn ogystal â chefnogi’r offeiriaid mewn nifer ddi-ben-draw o ffyrdd eraill. Mae cyfraniad y bobl hyn sy’n gweithio’n dawel tu ôl i’r llenni yn enfawr: hebddynt, ni fyddai’r miloedd o wasanaethau cymdeithasol a grwpiau cymunedol sy’n cwrdd mewn eglwysi bob wythnos yn parhau.


Mae maint yr ymroddiad hwn yn syfrdanol. Yn 2025, dywedodd 83% o eglwysi fod rheolaeth lwyddiannus eu hadeiladau’n dibynnu ar gorff gweithgar o wirfoddolwyr. Mae’r gynulleidfa gyfartalog bellach yn dibynnu ar 265 awr o wasanaeth di-dâl bob mis.


Yn 2010, dim ond 33% o eglwysi ddywedodd fod “prinder amser gwirfoddolwyr” yn cyfyngu ar eu gallu i ddarparu mwy o weithgareddau cymunedol. Erbyn 2025, roedd bron i hanner (45%) yn nodi hyn fel rhwystr mawr i wneud mwy yn y gymuned leol. Mewn cwestiwn arall, pan ofynnwyd pa gymorth ymarferol a fyddai’n eu helpu i ehangu, nododd 70% mai “mwy o wirfoddolwyr” oedd yr unig gymorth mwyaf defnyddiol. Er bod y geiriad wedi newid o gyfyngiad i rwystr, mae’r duedd dros amser yn glir: mae’r hyn a fu’n bryder cefndirol bellach yn un o’r rhwystrau mwyaf i dwf.


Ond mae cyfle yma hefyd i ysbrydoli ac i alluogi cenhedlaeth newydd i gamu ymlaen. Gall y bobl ifanc sy’n canu mewn corau, yn ymuno â grwpiau ieuenctid lleol, neu’n darganfod hanes a threftadaeth eu heglwysi heddiw dyfu’n wirfoddolwyr yfory.
 

Mae cryfhau sylfaen wirfoddolwyr eglwysi ymhlith y buddsoddiadau mwyaf effeithiol y gellir eu gwneud i sicrhau bod y lleoedd hanfodol hyn yn aros yn fyw, yn cael eu defnyddio fel mannau addoli, ac yn cael eu caru am ddegawdau i ddod






83% churches

An aerial shot of Chorley St Laurence church
The Saltways

Gwirfoddolwyr dan bwysau

Mae Eglwys St Laurence, yr adeilad hynaf yn Chorley gyda dros 800 mlynedd o hanes, yn fwy na hen eglwys Gradd I: hi yw calon y gymuned. Mae ei ffynnon Normanaidd a’r meinciau teuluol hynafol yn dyst i ganrifoedd o ffydd, ond heddiw y 160 o wirfoddolwyr sy’n cynnal ei bywyd bob dydd.

Efallai fod 160 yn swnio’n nifer fawr o wirfoddolwyr. Ond hyd yn oed gyda’r sylfaen wirfoddolwyr fwyaf yn yr arolwg hwn, mae St Laurence yn ei chael yn anodd ateb y galw lleol. Mae gwirfoddolwyr eisoes wedi ymrwymo i ystod eang o weithgareddau drwy’r wythnos, gan gynnwys caffis canser, cymorth iechyd meddwl a galar, celf a chrefft, grwpiau hanes a chefnogaeth ariannol. Nhw hefyd sy’n cynnal “Open Table” (Bwrdd Agored), gwasanaeth brys bwyd 24/7 sy’n dosbarthu parseli brys ar gyfeiriad y Cyngor.

Nid aelodau eglwys yw hanner y gwirfoddolwyr hyn; pobl leol ydynt sy’n awyddus i gefnogi’r adnodd hanfodol hwn yn y gymuned.

Mae’r gwasanaeth hwn o dan straen eithriadol. Mae gwirfoddolwyr yn gweini prydau poeth am ddim bron bob dydd, er nad oes ganddynt y cyfleusterau angenrheidiol felly dim ond cawl a diodydd poeth y gellir eu cynnig. Mae’r weledigaeth i ehangu gyda chegin iawn ar stop ar hyn o bryd wrth i’r eglwys orfod delio hefyd â methiannau brys ar y to, a arweiniodd at gau dros dro y llynedd pan arllwysodd dŵr i lawr ar y meinciau. Mae cyflwyno cap o £25,000 ar y Cynllun Grantiau ar gyfer Mannau Addoli Cofrestredig wedi gadael yr eglwysheb fodd i wneud y gwaith atgyweirio brys, ac nid oes ganddynt sicrwydd sut i fynd ati i ddiweddaru’r cyfleusterau i ateb anghenion lleol.

Er eu bod yn breuddwydio am gynnig teithiau treftadaeth ac arddangos stori ryfeddol yr eglwys, nid oes ganddynt yr adnoddau na’r cyllid. Mae ceisiadau grant, yn enwedig i’r Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cymryd amser ac arbenigedd. Ar hyn o bryd mae’r holl wirfoddolwyr yn brysur yn darparu’r cymorth cymunedol sydd mor angenrheidiol.

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos nad yw niferoedd ar eu pennau eu hunain yn golygu gallu. Yr hyn sy’n siapio’r hyn y gellir ei gyflawni yw dwyster yr angen, bregusrwydd yr adeilad, a chyfyngiadau oriau gwirfoddolwyr. Heb fwy o gymorth allanol, mae’r adeilad a’r ymroddiad gwirfoddolwyr rhyfeddol y mae’n ei ysbrydoli mewn perygl difrifol o gael eu llethu.

Parhau i ddarllen

Y rhan nesaf yw 'Ceidwaid Trysorau Diwylliannol'.

Darllenwch y dudalen nesaf