Costau cysylltiedig: buddsoddi gyda’n gilydd ar gyfer y dyfodol
Nid yw eglwysi’n anghofio am eu dyletswydd o ofalu, ond yn mynd ymhellach fyth. Mae eu penderfyniad i gynnal eu hadeiladau yn rhyfeddol – ond mae’r her ariannol yn enfawr. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r Arolwg Eglwysi Cenedlaethol yn dangos bod 65% o eglwysi wedi talu rhwng 75% a 100% o’u costau atgyweirio blynyddol o’u cronfeydd eu hunain. Mae hyn yn dangos nad yw cymunedau’n aros i rywun arall gamu i mewn, ond yn gweithio’n ddiflino i gadw’u hadeiladau. Eto i gyd, mae eglwysi gwledig ac eglwysi rhestredig, sydd eisoes yn wynebu cynulleidfaoedd bach a galw mawr am atgyweirio, yn llai abl i dalu’r costau llawn ar gyfer gwaith mawr heb gymorth o’r tu allan.
Ffynonellau cyllid – baich gwydnwch
Mae’r Arolwg hwn yn dangos bod eglwysi, dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi gorfod bod yn fwy gweithgar a chreadigol wrth dynnu ar amrywiaeth o ffrydiau cyllid, ond fod y dibyniaeth ar bobl leol wedi dyfnhau. Mae rhoi lleol (gan gynulleidfaoedd ac ymwelwyr) wedi codi’n sylweddol, o 54% yn 2010 i 77% o eglwysi yn 2025 yn dweud eu bod yn dibynnu ar y rhoddion hyn.
Yn ogystal â hyn, mae etifeddiaethau wedi codi fel ffynhonnell ariannu o 34% yn 2010 i 50% yn 2025, tra bod codi arian lleol (o gyngherddau a digwyddiadau i werthiannau dillad ail law) wedi aros yn ffynhonnell incwm gyson dros y blynyddoedd ar tua 50%. Mae 31% o eglwysi yn dibynnu ar eu cronfeydd wrth gefn. Mae hyd yn oed cefnogaeth enwadol bron wedi dyblu, o ddim ond 9% yn 2010 i 20% yn 2025, sy’n dangos bod sefydliadau eglwysig yn fwy ymwybodol o’r angen am gefnogaeth systematig.
Mae’r arolygon yn 2010 ac yn 2025 ill dau yn pwysleisio nad yw eglwysi’n oddefol nac yn esgeulus. Mae’r ffigurau hyn yn drawiadol, gan ddangos cryfder y cysylltiad lleol ag adeiladau eglwysig. Maent hefyd yn tynnu sylw at y risg: os collir yr adeiladau hyn, nid oherwydd i bobl leol fethu â gweld eu gwerth, ond oherwydd na allent gynnal yr adeiladau ar eu pennau eu hunain ac roedd angen cefnogaeth o’r tu allan. Yn wir, mae’r Arolwg Eglwysi Cenedlaethol yn dangos bod eglwysi’n gwneud mwy nag erioed – yn codi arian, yn gwneud ceisiadau am grantiau, yn defnyddio cronfeydd wrth gefn, ac yn ceisio rhoddion busnes. Nid diffyg ymdrech leol sy’n esbonio’r diffyg cyson yn gyflwr adeiladau, ond oherwydd bod yr heriau ariannol yn drech na’r gefnogaeth sydd ar gael yn ehangach.
Ni ddylid cymryd gwydnwch adeiladau eglwysig fel arwydd o ormodedd. Mae’n adlewyrchu’r ymdrech eithriadol y mae pobl leol yn ei rhoi drwy gyfrannu, codi arian a gwirfoddoli eu hamser. Mewn llawer o achosion, mae’r ysbryd hwn o ofalu wedi cadw eglwysi ar agor er gwaetha’r heriau. Ond wrth i adeiladau heneiddio a chostau gynyddu, nid y cwestiwn yw a yw eglwysi’n gofalu am eu hadeiladau, maen nhw’n sicr yn gwneud hynny, ond am ba hyd y gallant barhau i gario’r baich ar eu pennau eu hunain?
Gwneud cais am grant o safbwynt eglwys
Gan Dr Phil Simpson, Clerc Sesiwn Eglwys Plwyf Killin & Ardeonaig, Sir Perth.
Mae’n rhaid cadw ein hadeilad eglwysig. Dyma’r unig eglwys am filltiroedd ac mae’n rhaid ei chadw ar agor ac wedi’i chynnal i safonau cyfoes. Mae cadwraeth, atgyweiriadau safonol a gwelliannau i’r adeilad yn hanfodol ac yn dibynnu ar swm enfawr o waith a allai neu na allai ddod â grant.
Mae amser ar gyfer hyn yn brin ar rhan wirfoddolwyr. Nhw sy’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r gwaith ac sy’n agosaf at y weledigaeth o’r eglwys yn oleuni i’r gymuned.
Y cam nesaf yn ein rhaglen codi arian yw codi £250,000 i adfer ein ffenestri. Bydd hyn yn golygu oriau maith o chwilio a gwneud ceisiadau i ymddiriedolaethau elusennol, ac nid yw pob cais yn llwyddiannu.
Gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser ag harian eu hunain yw cefnogaeth sylfaenol ein heglwys. Mae grantiau’n hanfodol, gan fod y costau dan sylw yn rhy fawr i gynulleidfa fach eu
hysgwyddo eu hunain.
Yn y cyfamser, mae gwaith dyddiol y gwirfoddolwyr hynny’n dioddef oherwydd bod tasgau’n cael eu gohirio. Yn aml rydym yn meddwl pe gellid sianelu’r holl ymdrech i godi arian i mewn i brif ddibenion yr hyn a wnawn, byddai’r effaith yn sylweddol.
Parhau i ddarllen
Y rhan nesaf yw 'Adeiladau eglwysig a her newid hinsawdd.'