Mae eglwysi hefyd yn ganolfannau diwylliannol a chymdeithasol – mae 66% yn cynnal grwpiau cerddoriaeth, ac mae bron i hanner (43%) yn gwneud hyn o leiaf unwaith yr wythnos, gan ysbrydoli creadigrwydd a hyder a dod â phobl ynghyd ar draws cenedlaethau. Mae ychydig dros dri chwarter (76%) yn cynnal digwyddiadau cymunedol fel boreau coffi neu grwpiau plant bach sy’n adeiladu rhwydweithiau o berthyn sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig neu dlawd lle mae prinder o lefydd cyfarfod eraill.
Anaml y mae eglwysi’n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Yn yr Arolwg, mae 53% yn adrodd bod eu hadeilad yn cael ei ddefnyddio o leiaf unwaith yr wythnos gan grwpiau eraill, ac mae 21% yn gweithredu fel canolfan reolaidd i grwpiau cymunedol neu elusennol. Mae hyn yn dangos bod eglwysi’n dylanwadu ar fywyd cymdeithasol ehangach, gan gryfhau cysylltiadau drwy bartneriaethau ag elusennau, awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol.
Mae’r Arolwg yn dangos bod 49% o eglwysi’n cynnal grwpiau ieuenctid, gyda thraean yn cwrdd o leiaf unwaith yr wythnos. Mewn llawer o ardaloedd, dyma rai o’r unig gyfleoedd strwythuredig a diogel sydd ar gael i bobl ifanc, gan lenwi’r bylchau a adawyd ar ôl cau clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr elusen Mind a’u adroddiad iechyd meddwl yn 2024, yn Lloegr yn unig mae. 1 o bob 5 plentyn a pherson ifanc bellach yn byw gyda phroblem iechyd meddwl, cynnydd o 1 mewn 9 yn 2017. Yn y cyd-destun hwn, mae grwpiau ieuenctid eglwysig yn fwy na chynulliadau cymdeithasol – maent yn rhoi cyfleoedd i feithrin cyfeillgarwch, perthyn a lles.
Y tu hwnt i’r manteision uniongyrchol, mae cynnal grwpiau ieuenctid mewn hen eglwysi yn fuddsoddiad. Pan fydd plant yn canu mewn corau o dan wydr lliw, neu’n ymgynnull mewn nêfau canoloesol ar gyfer nosweithiau ieuenctid, nid ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn unig ond yn creu bond gyda hanes lleol. Gall y profiadau hyn helpu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gwerthfawrogi, yn gofalu am, ac yn cefnogi eu hadeiladau eglwysig fel asedau cymunedol hanfodol.