FUNDRAISINGChurchMembershipLochee(StMaryLocheePERMISSIONBYEMAIL)1 StMaryLochee

Gwe gwydnwch eglwysig

Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at wydnwch a chynaliadwyedd parhaus eglwysi. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyllid, cryfder gwirfoddolwyr, ymgysylltu â’r gymuned, cyflwr yr adeilad, a’r cyfleusterau a’r hygyrchedd sydd ar gael. Daw’r cyfan hyn at ei gilydd i alluogi eglwysi i wasanaethu eu cymunedau – fel lleoedd addoli, canolfannau cymunedol, cyrchfannau i ymwelwyr ac ati. Mae llawer o eglwysi wedi bod yn lleoedd defnydd parhaus dros ganrifoedd. Ond y ffactorau hyn sydd yn sicrhau y gellir defnyddio adeilad eglwys mewn ffyrdd o’r fath am flynyddoedd i ddod. 

Mae plotio’r ffactorau hyn gyda’i gilydd felly’n rhoi darlun o gynaliadwyedd adeilad eglwys a’i gynulleidfa. Nid oes yr un o’r ffactorau hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i wneud eglwys yn wydn ar gyfer y dyfodol, ac ni ddylid ystyried diffyg mewn un maes fel bygythiad i oroesiad eglwys. Os yw hanes eglwysi’n dysgu unrhyw beth i ni, mae’n dangos eu bod yn hynod o wydn er gwaetha heriau niferus, amrywiol a chymhleth. 

Gall y pum prif ffactor roi arwydd clir o sefyllfa eglwysi. Pan fo’r pum elfen hyn yn cyd-fynd, gall eglwysi fod yn hyderus bod eu hadeiladau, eu gwaith cymunedol a’u cyllid mewn sefyllfa gref i ddiogelu gwaith yr eglwys yn y dyfodol ac i warchod treftadaeth eglwysi ar gyfer cenedlaethau i ddod.

I wneud hyn yn weladwy, gallwn fapio gwydnwch eglwys fel gwe, gyda’r pum ffactor yn ymestyn o’r canol: 

  • Cyfleusterau a Hygyrchedd: mae sgôr uchel yn dangos pa mor addas yw’r cyfleusterau ar gyfer ymgysylltu cymunedol a gweithgareddau crefyddol, ac mae’n cynnwys ffactorau fel mynedfeydd hygyrch, Wifi, a mesurau i wneud cyfleusterau’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
  • Defnydd Cymunedol: mae sgôr uchel yn dangos bod adeiladau ar agor yn rheolaidd ac yn cael eu defnyddio gan grwpiau eraill yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau a drefnir gan yr eglwys ar gyfer y gymuned.
  • Cryfder Gwirfoddolwyr: mae sgôr uchel yn awgrymu bod gan eglwys ddigon o wirfoddolwyr i gynnal y gweithgareddau y maent am eu cynnal, ac mae hefyd yn dangos bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan sylweddol yn llwyddiant yr eglwys.
  • Cyflwr yr Adeilad: mae sgôr uchel yn dangos bod adeilad yr eglwys yn cael gofal da, gyda chynnal a chadw rheolaidd, arolygiadau rheolaidd, a gwelliant yn y ffabrig.
  • Iechyd Ariannol: mae sgôr uchel yn dangos bod gan eglwys y cronfeydd i dalu costau atgyweirio, sicrhau ffrydiau cyllid, a safbwynt optimistaidd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.


Gyda’i gilydd, mae’r llinynnau hyn yn ffurfio Gwe Gwydnwch Eglwysig. Pan fyddant yn ymestyn allan yn gyfartal, mae’r darlun yn gytbwys ac yn wydn. Pan fydd un yn cwympo i mewn, efallai oherwydd cyllid gwan, cyfleusterau gwael, neu brinder gwirfoddolwyr, mae’r we gyfan yn cael ei thaflu oddi ar ei hechel, gan adael yr eglwys yn agored i niwed.

Y Cyswllt rhwng Cyflwr yr Adeilad a Gwydnwch

Mae’r siart isod yn mapio dau fath gwahanol o eglwys: y rhai sy’n dweud bod eu ffabrig wedi gwella a’r rhai sy’n dweud ei fod wedi gwaethygu. Yr hyn sy’n dod yn amlwg yw bod cyflwr yr adeilad yn gysylltiedig â marciau gwydnwch eraill. Mae eglwysi sy’n adrodd am ffabrig sy’n dirywio yn dangos gwe lai, lle mae ymgysylltu cymunedol yn lleihau, mae cyllid yn dioddef, ac mae cyfleusterau’n mynd yn llai addas. Mae’r cysylltiad yn amlwg hyd yn oed os na allwn ddweud yn sicr beth sy’n dod gyntaf – ffabrig, cyllid, ymgysylltu cymunedol neu ddirywiad cyfleusterau.






Spider diagram of church resilience

 

Plotio gwydnwch yn ôl gwlad y DU

Pan fyddwn yn plotio pob un o’r pedair gwlad ar we gwydnwch eglwysig, mae’n amlwg bod angen dull wedi’i dargedu ar bob gwlad i helpu adeiladau eglwysig a’u cynulleidfaoedd i dyfu.






Spider diagram of church resilience for different nations

Plotio gwydnwch yn ôl gwledigedd

Mae eglwysi gwledig yn wynebu her ynghylch cyllid ac ymgysylltu â’r gymuned. Nid oes ganddynt yr adnoddau ariannol i gynnal gweithgareddau cymunedol. Mae sgôr cryfder gwirfoddolwyr yn aros yn debyg i’r rhai mewn eglwysi trefol a maestrefol, ond mae hyn yn fwy tebygol oherwydd nad ydynt yn cynnal cymaint o weithgareddau cymunedol, yn hytrach nag oherwydd bod ganddynt niferoedd mawr o wirfoddolwyr.






Spider diagram of church resilience by rurality

Mae darlun clir yn dod i’r amlwg. Nid maint, cyfoeth na niferoedd mawr o wirfoddolwyr sy’n diffinio eglwys wydn ond cydbwysedd. Maent yn agored ac yn groesawgar, yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr ymroddedig hyd yn oed os ydynt yn brin gyda chyllid cynaliadwy yn sail iddynt ac yn cael eu gofalu amdanynt drwy gynnal a chadw rheolaidd. Pan fo’r pum llinyn o’r we’n gryf gall eglwysi fod yn obeithiol am eu dyfodol. Pan fydd unrhyw un yn gwanhau mae’r strwythur cyfan yn plygu. Mae’r graffiau gwe hyn sy’n seiliedig ar yr Arolwg Eglwysi Cenedlaethol yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd pobl adeiladau ac adnoddau’n cyd-fynd.

Parhau i ddarllen

Y rhan nesaf yw y 'Casgliad Galwad i Weithredu'.

Darllenwch y dudalen nesaf