STORYDewiSant(CC0)2

Dewi Sant

Dewi Sant yw nawddsant Cymru

gan Caroline Welch, Church Support Officer, Wales


Mewn trefi a phentrefi, gwelir plant yn cerdded i’r ysgol yn eu gwisgoedd Cymreig traddodiadol ac yn cymryd rhan mewn eisteddfodau, sef cystadlaethau arbennig sy’n cynnwys canu, dawnsio, llenydda, celf a chrefft. Hwn yw’r diwrnod pwysicaf yng nghalendr Cymru i ddathlu’n diwylliant a’n hetifeddiaeth, ond pwy oedd Dewi Sant.

Dywedir i Dewi Sant gael ei eni yn y 6ed ganrif ar ben clogwyn yn Sir Benfro, yn ystod storm wyllt. Mae adfeilion Capel St Non yn dynodi’r lle heddiw. Roedd yn athro a phregethwr adnabyddus ac uchel ei barch, a bu’n gyfrifol am sefydlu mynachlogydd ac eglwysi ledled Cymru, de-orllewin Lloegr a Llydaw.

Portreadir Dewi Sant yn aml yn sefyll ar ben bryn bach, gyda cholomen ar ei ysgwydd. Mae’r ddelwedd hon yn cyfeirio at ei wyrth enwocaf. Tra roedd yn pregethu wrth y dorf yn Synod Brefi, cododd y tir o dan ei draed i sicrhau bod pawb yno yn gallu ei glywed a glaniodd colomen wen ar ei ysgwydd yn arwydd o’i sancteiddrwydd. Gelwir y lle heddiw yn Llanddewi Brefi.

Bu fyw bywyd sanctaidd gan ymarfer yn ffyddlon yr hyn a bregethodd. Yn ôl y rheolau mynachaidd a luniodd ei hun, roedd yn rhaid i’w fynachod dynnu’r aradr eu hunain heb gymorth anifeiliaid wrth ffermio’r tir, yfed dim byd ond dŵr a bwyta dim byd ond bara a pherlysiau. Hyrwyddodd ddiet syml iawn, gyda chig a chwrw’n cael eu gwahardd. Tra roedd yn ymprydio, bwytaodd gennin yn unig, ac mae’r genhinen bellach wedi ei hen sefydlu yn un o brif symbolau Cymru.

Mae Dewi Sant yn ein hatgoffa am bwysigrwydd ein gweithredoedd a’r berthynas sydd gennym gyda’r byd sydd o’n hamgylch. Dyma sylfaen lles cymunedol. Mae ‘Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ yn ymadrodd adnabyddus yn y Gymraeg hyd heddiw.                  

Bu farw Dewi Sant ar Fawrth 1af a chafodd ei gladdu yng Nghadeirlan Tyddewi, a sefydlodd yn ardal brydferth Glyn Rhosyn yn Sir Benfro. Gellid gweld ei greirfa yn y Gadeirlan o hyd, er iddi gael ei hailadeiladu nifer o weithiau, yn benodol pan gafodd ei hysbeilio gan y Llychlynwyr yn y 10fed a’r 11eg ganrif, pan dynnwyd y metelau gwerthfawr oddi arni. Mae nifer o lwybrau pererindod canoloesol yn dal i fodoli heddiw, yn cyfeirio’r ffordd at ddinas leiaf Cymru.

PembrokeshireSTDAVIDSStDavidsCathedral(©crowncopyright2020)17

©CrownCopyright2020

Yn ei bregeth olaf, rhoddodd y cyngor canlynol: ‘Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi. Byddaf yn troedio’r llwybr a droediwyd gan ein cyndadau o’n blaenau’

: Dewi Sant

PembrokeshireSTDAVIDSStDavidsCathedral(©crowncopyright2020)1
©CrownCopyright2020

St Davids Cathedral

Sefydlodd Dewi Sant ei fynachlog yma yn y 6ed ganrif.

PembrokeshireSTDAVIDSStNonChapelRuin(©crowncopyright2020)3
©CrownCopyright2020

St Non Chapel

Man geni honedig nawddsant Cymru mewn lleoliad dyrchafol.

STORYDewiSant(CC0)1