PembrokeshireSTDAVIDSStDavidsCathedral(©crowncopyright2020)1 ©CrownCopyright2020

Cadeirlan Tyddewi

Mae cadeirlan Tyddewi yn lle cysegredig, addoldy a chyrchfan pererinion a saif ar fraich o dir godidog yn Sir Benfro, ar lan Môr yr Iwerydd. Fe’i codwyd ar safle mynachlog a sefydlwyd yn y chweched ganrif gan Dewi Sant, Nawddsant Cymru.

Tyddewi, Pembrokeshire

Oriau agor

Yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau Cofid, rydym ar agor yn ddyddiol ar gyfer gweddi bersonol unigol. Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl dychwelyd at ein horiau agor dyddiol sydd rhwng 9am a 5pm.

Cyfeiriad

The Pebbles
Tyddewi
Pembrokeshire
SA62 6RD

Mae Tyddewi wedi cael ei ddisgrifio fel ‘man tenau’, yn fan lle mae’r ffin rhwng y nef a’r ddaear cyn deneued â gwawn, a lle mae modd dirnad gweddïau miloedd o bererinion. Mae nifer o’r ymwelwyr yn cael eu cyffwrdd gan awyrgylch ysbrydol dwfn y gadeirlan. 

Ein gobaith yw, wrth i ni ‘Groesawu Ymwelwyr fel Pererinion’, y byddwn yn annog pawb, bobl o bob ffydd a phobl heb ffydd, i fyfyrio ar eu pererindod eu hunain drwy bywyd, gan efallai, eu hysbrydoli i gymryd y cam nesaf.

Yn 1123, cyhoeddodd y Pab Calistus II fod dwy bererindod i Tyddewi cyfwerth ag un i Rufain – a thair ohonynt cyfwerth ag un i Jerwsalem. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlwyd ynddi Gysegrfa Dewi Sant. Gallwch bellach ymweld â’r gysegrfa hon gan iddi gael ei hadfer yn ddiweddar, gydag eiconau newydd yn portreadu y Seintiau Dewi, Padrig Andreas, Non a Justinian.

Cyflwynir gweddïau pererinion yma, ac adroddir hanes Dewi Sant. Cofir amdano’n aml am iddo ddysgu ei ddilynwyr gyda’r geiriau, ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain..’ Ein nod yw bod yn llawen wrth i ni fynegi’r newyddion da am Iesu Grist. Rydym yn ymdrechu i gadw’r ffydd a drosglwyddwyd drwy’r canrifoedd yn ein gweddïau a’n haddoliad beunyddiol. Ac rydym yn gobeithio, yn y pethau bach a wnawn ddydd ar ôl dydd, y byddwn yn anrhydeddu Duw Dewi Sant a’n Duw ninnau.

Dechreuwyd codi’r gadeirlan rhwng 1180 a 1182 ac mae ynddi nifer o bethau eraill i’w gweld a’u hystyried. Mae’r adeilad sydd gennym heddiw yn ganlyniad canrifoedd o ailadeiladu ac ehangu, yn enwedig gan yr Esgob Gower yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yna, yn nes ymlaen gan y pensaer enwog Syr George Gilbert Scott yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod yr ugeinfed ganrif, adferwyd Neuadd St Mair, ac yn yr unfed ganrif ar hugain, adferwyd y clawstrau. Mae’r gadeirlan wedi goroesi hyd heddiw er ei bod wedi profi daeargryn a chwymp ei thŵr yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Canlyniad hyn yw bod gogwydd pendant yn y llawr – ac o ganlyniad, nid yw’r arcedau’n fertigol. Mae yna wahaniaeth o ryw bedwar medr yn uchder y llawr rhwng pegynau dwyrain a gorllewin yr adeilad!

Rhaid ei brofi er mwyn ei gredu!

Contact information

PembrokeshireSTDAVIDSStDavidsCathedral(©crowncopyright2020)1 ©CrownCopyright2020

Make a donation

Donate to this church

Other nearby churches

Sant Eloi

Llandeloi, Pembrokeshire

Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.

Eglwys Santes Fair

Herbrandston, Pembrokeshire

Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.

Santes Fair

Maenclochog, Pembrokeshire

Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.