Nod y prosiect hwn yw denu ymwelwyr o’r DU a thramor i gael blas ar dreftadaeth sanctaidd Cymru, gan ymweld yn benodol â’r lleoliadau sydd ar hyd ac yn ymyl Ffordd Cymru.
Byddwn yn creu platfform lle y bydd ymwelwyr yn gallu rhagarchebu teithiau i eglwysi, capeli a chadeirlannau Cymru, ac yna’n cael y cyfle i ddarganfod y dreftadaeth ehangach oddi fewn iddynt ac o’u hamgylch, yn cynnwys y byd natur, adeiladau a chymunedau.
Yn gweithio gyda phartneriaid, bydd y prosiect yn cyflawni nifer o ddeilliannau:
- 200 o eglwysi / capeli newydd ar ExploreChurches, gwelliannau i’r cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o’r 500 safle am Gymru ar ExploreChurches, yn cynnwys fersiynau Cymraeg
- Tudalen lanio ar gyfer Cymru, gyda’r cynnwys ar safleoedd ffydd Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg
- 20 – 30 o brofiadau newydd ar ExploreChurches
- Ffotograffiaeth, ffilm a deunydd podlediadau, wedi eu creu i fod yn gymorth i farchnata treftadaeth ffydd Cymru
- Annog nod o 250 o wirfoddolwyr i fod yn rhan o’r prosiect trwy sesiynau hyfforddi a chymorth
- Rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau neu linc arall rhwng ExploreChurches a Ffordd Cymru
- Ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn targedu cynulleidfaoedd y DU a thramor, gyda’r nod o gael cynnydd o 50,000 yn nifer y bobl sy’n ymweld ag addoldai Cymru.
Cefnogir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, yr elusen sy’n cefnogi adeiladau eglwysig, ac fe’i rheolir gan Wasanaethau Treftadaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi mewn partneriaeth gyda Croeso Cymru, Addoldai Cymru, Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Nod Profi Cymru Sanctaidd yw denu ymwelwyr Prydeinig a rhyngwladol i ymweld â threftadaeth sanctaidd ryfeddol Cymru, yn enwedig y lleoliadau sydd ar hyd Ffordd Cymru.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy'r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) ac yn derbyn cefnogaeth y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig (EAFRD ) a Llywodraeth Cymru. Nod y Gronfa yw annog syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch newydd a chydweithio er mwyn cael mwy of effaith a denu mwy o ymwelwyr.
Ymunwch â ni ar ein harchwiliad o Gymru gysegredig, ewch i'n tudalen i weld ein straeon newydd, Profiadau, delweddau a mwy.