GwyneddLLANBEULANStPeulan(sarahcrosslandSTAFF)1 SarahCrossland

Sant Peulan

Mae Sant Peulan yn tarddu o’r Oesoedd Canol, a saif ar ei phen ei hun ar derfyn ei sarn werdd uchel. I’w chyrraedd, mae’n rhaid troi oddi ar yr heol sydd ag arwydd am Dothan.

Llanbeulan, Anglesey

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Llanbeulan
Anglesey
LL63 5UR

Yn ôl yr hanes, Sant Peulan ei hun a fu’n gyfrifol am sefydlu’r eglwys yn y chweched ganrif, er nad oes unrhyw ran o’r adeilad o’r cyfnod hwnnw wedi goroesi. Prif nodwedd yr eglwys yw ei bedyddfaen. Mae’n dyddio o hanner cyntaf yr unfed ganrif ar ddeg, ac mae bron yn sicr ei fod wedi dod o’r un gweithdy â bedyddfeini Heneglwys a Llaniestyn, ac un o’r croesau Celtaidd sylweddol sydd bellach ym Mhriordy Penmon.

Yn ôl awgrym Peter Lord, allor oedd y bedyddfaen hwn yn wreiddiol, ac os yw hyn yn wir, ‘mae’n allor unigryw yng Nghymru, yn wir ym Mhrydain, gan ei bod wedi goroesi o’r cyfnod cyn Normanaidd’.

Contact information

Other nearby churches

Sant Mair

Tal y Llyn, Anglesey

Mae eglwys St Mair, Tal y Llyn yn sefyll mewn mynwent helaeth iawn, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos yn fechan iawn.

St Cwyfan

Llangwyfan, Anglesey

Gall yr ynys ymddangos yn lle rhyfedd a pheryglus i godi eglwys – ond safai eglwys St Cwyfan yn wreiddiol ar ddiwedd penrhyn rhwng dau fae, fel y gwelir ar fap John Speed o Ynys Môn yn 1610 / 1611.

Sant Figael

Llanfigael, Anglesey

Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.