GwyneddLLANFAGLANStBaglan(jeffbuckCC-BY-SA2.0)1 JeffBuck

Sant Baglan

Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.

Llanfaglan, Gwynedd

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Llanfaglan
Gwynedd
LL54 5RA

Mae’n werth crwydro’r fynwent. Mae ei ffurf yn awgrymu tarddiad cyn-Gristnogol ac mae yna swyn syml, gwerinol yn y wal derfyn, y giât mynediad sydd ag arysgrif wardeiniaid yr eglwys, ac amrywiaeth o gerrig beddi a chistiau llechi, heb anghofio pwt o chwedl leol boblogaidd, sef bedd y 'môr-leidr'.

Mae muriau cynharaf yr eglwys yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg ond ni chwblhawyd ei ffurf bresennol tan bedair canrif yn ddiweddarach.

Wrth i chi fynd i mewn i’r eglwys, mae’n rhaid i chi fwrw golwg ar silff a lintel wal ddwyreiniol y porth. Yma fe welwch ddwy garreg wedi’u cerfio â chroesau, yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’r croesau ar y ddwy, ond mae llun llong yn ogystal ar yr un isaf. Ar y tu mewn, uwchben y drws, fe welwch garreg gerfiedig gynnar o’r bumed neu’r chweched ganrif, sydd wedi cael ei hailddefnyddio fel lintel. Mae’r arysgrif yn dweud 'Fili Lovernii Anatemori', sef dau enw Brythoneg Lovernius ac Anatemorus sydd wedi cael eu Lladineiddio. Wrth osod y garreg yn ei safle cywir, sef ar ei sefyll, byddai’r geiriau’n darllen Anatemori Fili Lovernii.

Yn y tu mewn, mae’r eglwys yn adlewyrchu bywyd cymdeithasol y ddeunawfed ganrif, gan fod ynddi amrywiaeth o seddau, rhai cyffredin, cefn agored ac yna seddau blwch mawreddog ar gyfer y pentrefwyr cyfoethocach, a oedd gan amlaf yn ychwanegu eu llofnod a’r dyddiad i’w seddau. Mae yna un i’w gweld gyda’r llofnodwr yn dod o Ynys Môn.

Contact information

Other nearby churches

St Dwynwen

Ynys Llanddwyn, Anglesey

Mae Ynys Llanddwyn yn llecyn cyfareddol. Llanddwyn Island (Ynys Llanddwyn) is a magical place.

St Cwyfan

Llangwyfan, Anglesey

Gall yr ynys ymddangos yn lle rhyfedd a pheryglus i godi eglwys – ond safai eglwys St Cwyfan yn wreiddiol ar ddiwedd penrhyn rhwng dau fae, fel y gwelir ar fap John Speed o Ynys Môn yn 1610 / 1611.