PowysOLDRADNORSt Stephen(shirokazanCC-BY-SA2.0)1 Shirokazan

San Steffan

Er iddi gael ei llosgi yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr yn 1401, mae gan Eglwys Sant Steffan hanes cystal ag unrhyw gastell, gyda chroglen ganoloesol brin ac organ a all fod yr hynaf yn y DU.

Hen Faesyfed, Powys

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Hen Faesyfed
Powys
LD8 2RL

Sefydlwyd yr eglwys yn y bymthegfed ganrif ar safle o’r chweched ganrif, yn eglwys golegol bwysig a fu’n agos at un o gestyll Tywysogion Powys.

Ceir mynediad iddi drwy’r porth deheuol a gwelir yno gilfachau lle y saif cerfluniau Fictoraidd hardd. Yn union y tu mewn i’r drws, gwelir bedyddfaen hynafol, plocyn carreg ar ffurf cylch, gyda’r pen wedi’i gafnu i greu powlen fas. Yn sefyll ar bedair coes byrdew, mae’n bosib ei fod yn tarddu o’r wythfed ganrif.

Mae’r groglen bren hardd sy’n ymestyn ar draws yr eglwys yn dyddio o’r bymthegfed ganrif – ac mae’n un o’r rhai gorau yng Nghymru. Nodwedd bren hardd arall yw cas yr organ. Mae’n dod o’r cyfnod oddeutu 1500 – a chredir mai hwn yw’r enghraifft hynaf o’i fath i oroesi ym Mhrydain. Mae’r organ oddi fewn iddo yn un Fictoraidd, ac fe’i dyfeisiwyd yn arbennig i sicrhau nad oedd yn difrodi nac yn amharu ar y cas hynod a oedd yn ei hamgylchynu.

Mae teils llawr canoloesol mewn sawl rhan o’r eglwys, sydd hefyd wedi cadw ei darnau to gwreiddiol. Yn y capel gogleddol, mae cist ganoloesol ar gyfer cadw gwisgoedd eglwysig, a ffenestri lliw o’r bymthegfed ganrif gydag un ohonynt â llun o St Catrin.

Mae bloc enfawr o garreg wedi’i naddu’n fras yn amlwg iawn yn y fynwent; dyma garreg fedd Syr Herbert Lewis, 4ydd barwnig Llys Harpton. Mae’n bosib ei bod yn faen mawr cyn hanesyddol sydd wedi cael ei hailddefnyddio. Mae yna ragor o gofebau i aelodau eraill y teulu Lewis oddi fewn i’r eglwys; yr un fwyaf diddorol yw’r un er cof am Thomas Lewis a wnaeth ‘fwynhau bywyd llawn blynyddoedd’ ac a’i ‘cyfnewidiodd ar 5 Ebrill 1777 ar gyfer anfarwoldeb y nefoedd, yn 86 o flynyddoedd a 5 mis oed’.

Mae tomen bridd â ffos o’i hamgylch wedi’i chodi dros y ffordd i’r eglwys, ac mae rhai wedi awgrymu mai yn y fan hyn y safai’r castell.  Mae yna garreg â chroes wedi’i hendorri arni wedi’i gosod oddi fewn i lawr corff yr eglwys  - a honnir mai hon yw carreg fedd Hugh Mortimer, Rheithor Hen Faesyfed yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae’r eglwys yn wynebu’r gogledd a bryniau agored Coedwig Maesyfed, a enwyd felly gan ei fod yn dir hela canoloesol, ardal gaeedig a fyddai wedi bod ar gadw ar gyfer defnydd y brenin a barwniaid o safle uchel yn unig. I gyfeiriad y de, mae yna chwareli mawr modern; er iddynt fod yn agos iawn at yr eglwys, nid ydynt i’w gweld gan eu bod wedi eu cuddio gan y wlad o’u hamgylch.

Contact information

Other nearby churches

Sant Ellyw

Llaneleu, Powys

Mae’r eglwys anghysbell hon yn sefyll yng nghanol mynwent helaeth, hynafol yn nyfnderoedd y Mynyddoedd Du, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Eglwys y Forwyn Fair

Capel y Ffin, Powys

Lleolir eglwys Sant Mair, Capel y Ffin yn nyffryn cudd yr afon Honddu, gyda’r Mynyddoedd Du i’r gorllewin iddi a Chlawdd Offa i’r dwyrain. Mae’n fan lle mae celfyddyd a thirwedd yn ymdoddi i’w gilydd – ac nid yw’n syndod felly iddi ddenu arlunwyr a beirdd am ganrifoedd.

Cadeirlan Aberhonddu

Aberhonddu, Powys

Mae’r Gadeirlan yn estyn croeso i bawb sy’n dod heibio – boed os ydych yn dwrist sy’n ymweld, yn addolwr sydd yno i offrymu eich gweddïau personol neu i oleuo cannwyll, neu yn rhywun sydd â diddordeb arbennig mewn hanes, pensaernïaeth neu ffenestri lliw.