AngleseyLLANBADRIGStPatrick(©crowncopyright2020)1 ©CrownCopyright2020

St Padrig

Mae eglwys St Padrig yn sefyll yn un o olygfeydd prydferthaf Ynys Môn; mae’n fangre i fyfyrio, lle mae tangnefedd yn teyrnasu.

Llanbadrig, Anglesey

Oriau agor

Ar agor bob amser.

Cyfeiriad

Eglwys
Llanbadrig
Anglesey
LL67 0LH

Mae’r gwynt yn chwythu trwy’ch gwallt wrth i chi glywed cri yr adar môr sy’n nythu ar Ynys Badrig. Yma, ar yr ynys hon, yn ôl y chwedl, cafodd St Padrig, nawddsant Iwerddon, ei longddryllio.

Llwyddodd y sant i gyrraedd y lan, a chysgodi mewn ogof yn y clogwyni, lle roedd ffynhonnell dŵr glân. Cafodd gyfle i adfer yno, yn dilyn ei brofiad brawychus. Sefydlodd eglwys yma tua 440AD, yn arwydd o’i ddiolch am ei achubiaeth. Roedd yr eglwys wreiddiol yn eglwys bren, ond codwyd eglwys garreg ar yr un safle yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg  - a dyma’r adeilad a welir heddiw, yn  un o adeiladau hynaf Ynys Môn. Mae’n bosib iddo gael ei ymestyn yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gan beri i’r gangell fod yn hirach na’r mwyafrif o eglwysi tebyg.

Addaswyd yr eglwys nifer o weithiau yn ystod ei hanes – ond yn 1884, cafodd ei hatgyweirio’n sylweddol, gyda Henry Stanley, 3ydd Barwn Alderley, perchennog Ystâd Penrhos ar yr ynys, yn ariannu’r gwaith. Cafodd Stanley dröedigaeth ganol oed at y grefydd Islam (o ganlyniad, ef oedd yr Aelod Mwslimaidd cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi) a chafodd ei gynlluniau ar gyfer y gwaith atgyweirio eu dylanwadu gan ei ffydd newydd. Mae’r ffenestri lliw, yn hytrach na phortreadu golygfeydd a chymeriadau o’r Beibl, yn batrymau geometrig lliwgar plaen. Mae’r teils ar y wal y tu ôl i'r allor hefyd â phatrymau geometrig neu ffurfiau blodeuog. Mae yna ambell awgrym mai ef ei hun a fu’n gyfrifol am ddylunio’r patrymau hyn.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, roedd angen gwaith atgyweirio pellach, ar ôl i’r eglwys gael ei difrodi’n ddrwg gan dân a gynnwyd yn fwriadol.  Ddwy flynedd a £15,000 yn ddiweddarach, ail-agorwyd yr eglwys ar 24 Mai 1987. Mae gwirfoddolwyr yn yr eglwys yn gyson, ac maen nhw wrth eu bodd yn tywys ymwelwyr o’i hamgylch, gan gyfeirio at ei nodweddion mwyaf diddorol.

Wrth ymweld â’r safle, dywedodd yr arweinydd ysbrydol adnabyddus, Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama, fod mwy o dangnefedd yn perthyn i'r llecyn hwn nag unman arall ar y ddaear.

  • Dydd Mawrth 9.30am i 10am Gweddi Dawel.

  • Church in Wales

Contact information

Other nearby churches

Ein Harglwyddes Seren Y Môr a Santes Gwenfrewi

Amlwch, Anglesey

Mae Ein Harglwyddes, Seren Y Môr a Santes Gwenfrewi yn eglwys arloesol, eiconig o’r 1930au. Fe’i cynlluniwyd gan bensaer Eidalaidd a fu’n garcharor rhyfel. Priododd y pensaer Gymraes, gan ymgartrefu yng Nghonwy.

Sant Figael

Llanfigael, Anglesey

Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.