PowysCAPELYFFINStMaryVirgin(davidskinnerCC-BY-2.0)1 DavidSkinner

Eglwys y Forwyn Fair

Lleolir eglwys Sant Mair, Capel y Ffin yn nyffryn cudd yr afon Honddu, gyda’r Mynyddoedd Du i’r gorllewin iddi a Chlawdd Offa i’r dwyrain. Mae’n fan lle mae celfyddyd a thirwedd yn ymdoddi i’w gilydd – ac nid yw’n syndod felly iddi ddenu arlunwyr a beirdd am ganrifoedd.

Capel y Ffin, Powys

Oriau agor

Ar agor i ymwelwyr.

Cyfeiriad

Capel y Ffin
Powys
NP7 7NP

Adeiladwyd yr eglwys yn 1762, ar safle man pererindota hynafol. Fe’i cyrhaeddir wrth deithio ar hyd ffordd wledig anghysbell, lle mae’r coed yn plygu i gyfarfod â’i gilydd i ffurfio to glas – gan beri iddi fod yn llithrig yn yr haf ac yn amhosib i’w theithio yn y gaeaf. Mae’r adeilad ei hun yn ddeniadol a thwt – ac ar yr olwg gyntaf, yn rhoi’r argraff ei fod yn dŷ. Yr hyn sy’n gollwng y gath o’r cwd yw ei dŵr cam, sy’n gwt clychau. Yn ôl disgrifiad Francis Kilvert, y clerig a’r dyddiadurwr a fu’n byw nepell o’r eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r eglwys fel petai hi’n ‘eistedd yn ei chwrcwd fel tylluan lwyd fras, rhwng ei saith coed yw tywyll, mawr’. Heddiw, mae ei waliau gwyngalchog, ei tho cennog, a’i ffenestri dolennog yn parhau i gyfleu ei chymeriad unigryw.

Yn debyg i nifer o eglwysi Cymru, y dirwedd o’i hamgylch sy’n rhoi iddi ei naws arbennig; mae enw’r lle yn awgrymu ‘capel ar y ffin’  – beth yn union tybed oedd ym meddyliau’r rhai a’i sefydlodd yn y llecyn anghysbell hwn? Mae’r eglwys fach yn gapel anwes ar gyfer eglwys Llanigon gerllaw – a lle i oddeutu ugain o addolwyr yn unig sydd ynddi. Oddi fewn, mae’n gell sengl, gyda llawr carreg, seddau pren, galeri ar hyd dwy ochr, a phulpud sy’n dyddio o 1780.

Dyma le i ymdawelu a myfyrio, ar ddarn o dir sy’n nodweddiadol o ardal y Gororau. Ers tro byd, mae ardal Capel y Ffin wedi bod yn lle sydd wedi ysbrydoli amryw o artistiaid – a aeth hefyd yn ddi-os, am dro o amgylch yr eglwys a’r fynwent. Dorothy a William Wordsworth, Allen Ginsberg, Francis Kilvert, Bruce Chatwin, David Jones ac Eric Ravilious – dyma enwau ychydig o’r bobl a ddaeth am dro i’r pentref, neu a arhosodd yma.

Yn 1938, paentiodd Eric Ravilious ddarlun o’r enw ‘Wet Afternoon with view of the Church of St. Mary, Capel-y-Ffin’, gan osod yn y canol ddelwedd ohono’i hun yn ymlwybro ar hyd y ffordd droellog, gyda phortread manwl o’r cloddiau a’r coed y naill ochr iddo. Yn y darlun mae’r eglwys ei hun– yn focs gwyn diaddurn, wedi’i amgylchynu gan goed yw tywyll, a glaw a chymylau du yn crynhoi ar yr gorwel.

Ym mynwent yr eglwys, ceir dwy garreg fedd wedi eu naddu gan Eric Gill, a sefydlodd gymuned artistig yn y fynachlog gerllaw, lle y dyluniodd ffurfdeipiau Gill Sans a Perpetua. Adeiladwyd y fynachlog hon yn 1869, a chynhelir pererindod o Gapel-y-Ffin i’r fynachlog gerllaw bob blwyddyn. Yn dwyn yr enw ‘Priordy Llanddewi Nant Hodni’,  mae hi bellach yn llety hunanarlwyo. Mae’r eglwys hefyd yn sefyll ar ‘Y Ffordd Sistersaidd’, (Ffordd y Dwyrain, o’r Gelli Gandryll i Landdewi Nant Hodni) http://www.cistercianway.wales/directory/cwm-hir-grace-dieu/hay-wye-lla….   

I’r gogledd iddi, mae’r ffordd a elwir yn ‘Bwlch yr Efengyl’. Yn ôl Dorothy a William Wordsworth, roedd y ffordd hon dros y mynyddoedd i’r Gelli Gandryll yn un o’u hoff leoedd i fynd am dro – ac felly mae’n gydnaws bod ffenestr yn yr eglwys ac arni’r geiriau o Salm 121: ‘Codaf fy llygaid tua’r mynyddoedd, o ble y daw cymorth i mi?’ Mae’r golygfeydd dramatig a’r ymdeimlad bod amser yn sefyll yn ei unfan yn y dirwedd nefolaidd hon yn sicr yn un o themâu bythol Capel y Ffin.

Mae atyniad olaf yr eglwys yn ddarlun a baentiwyd yn 1925 gan David Jones, mewn gouache a phensil. ‘Sanctus Christus de Capel-y-Ffin’ yw enw’r darlun, ac mae’n hongian ar y wal wrth ochr drws yr eglwys. Crist ar groesbren garw yw canolbwynt y darlun, gyda’r dirwedd leol yn gefndir iasol iddo. Holltir y bryniau yn ddwy gan y croeshoeliad, gyda Christ yn y bwlch a gafnwyd rhyngddynt, yn llwm ac eto’n nerthol, gyda’r ddaear yn ddu o dan ei draed. Y neges yw bod Crist yn y fan hyn – ac yn wir, mae’n anodd peidio â chael eich cyffwrdd gan naws ysbrydol drawiadol y lle arbennig hwn.

Contact information

Other nearby churches

Sant Ellyw

Llaneleu, Powys

Mae’r eglwys anghysbell hon yn sefyll yng nghanol mynwent helaeth, hynafol yn nyfnderoedd y Mynyddoedd Du, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Sant Isw

Petrisw, Powys

Cyrhaeddir yr eglwys hon trwy deithio naill ai ar hyd lonydd troellog sy’n gyforiog o flodau, neu ar hyd llwybr troed. Wrth gyrraedd, fe welwch yr eglwys ganoloesol hon yn sefyll ar lethrau’r Grwyne Fawr, yn edrych heibio cwm bychan at lethrau Mynydd Pen-y-Fâl yr ochr draw.