PembrokeshireMAENCLOCHOGStMary(dylanmooreCC-BY-SA2.0)1 DylanMoore

Santes Fair

Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.

Maenclochog, Pembrokeshire

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol, rhwng y wawr a'r machlud.

Cyfeiriad

The Green
Maenclochog
Pembrokeshire
SA66 7LE

Mae seiliau’r eglwys yn ganoloesol, ond adferwyd yr eglwys drwyddi draw yn 1880 – 1. Yn ôl adroddiad papur newydd o’r cyfnod, cafodd do newydd, gyda’r llechi’n dod o’r chwarel lleol yn Rhos-y-bwlch. Gosodwyd y llechi dros do tîc corff yr eglwys, a  thros do derw’r gangell. Ychwanegwyd ffenestri newydd o garreg Caerfaddon. Cadwyd y bedyddfaen a rhan o’r pulpud o’r adeilad blaenorol.

Mae ffotograff o oddeutu 1906 yn dangos bod tŵr yr eglwys prin yn uwch na chrib to corff yr eglwys ei hun.  Mae’r mynediad iddo ar yr ochr ddeheuol, trwy ddrws anghywrain sydd ar ffurf triongl. Codwyd y tŵr i’r uchder presennol yn y 1920au.

Mae gan yr eglwys ddwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif, wedi eu cludo o fynwent gyfagos Llandeilo Lwydiarth. Maen nhw i’w gweld yn cyfeirio at ddau frawd, Andagelws a Choemagnws. Cludwyd trydedd garreg, yn fwy na thebyg o’r un safle, o Fwlchyclawdd i Genarth cyn 1743; mae hon yn cyfeirio at fab Andagelws. Mae cael grŵp o gerrig yn cyfeirio at yr un teulu yn anghyffredin iawn.

Mae’r pentref ar Lwybr Meini’r Preseli, llwybr â golygfeydd godidog ar hyd y bryniau isaf wrth odre Mynyddoedd y Preseli. Mae’r ardal yn frith o olion cyn-hanesyddol, yn cynnwys meini hirion, cylch o gerrig a safleoedd hen frwydrau. Gerllaw mae brigiadau creigiog Carn menyn, ffynhonnell y ‘meini gleision’ enwog, sy’n ffurfio’r cylch mewnol yng Nghôr y Cewri.  Mae ganddyn nhw’r briodoledd brin o fod yn 'soniarus' a gallan nhw ganu fel cloch neu gong pan fyddan nhw’n cael eu taro â morthwyl bach carreg. Dyma a roddodd yr enw i'r pentref – Maenclochog,  sef carreg yn canu.

Contact information

Other nearby churches

Sant Andreas yr Apostol

Y Beifil, Pembrokeshire

Credir bod hon yn eglwys ganoloesol a gafodd ei hailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw olion gweladwy o’r cyfnod cynnar hwn wedi goroesi.

Sant Eloi

Llandeloi, Pembrokeshire

Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.

Eglwys Santes Fair

Herbrandston, Pembrokeshire

Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.