PembrokeshireBOSHERTONStGovanChapel(davidskinnerCC-BY2.0)1 DavidSkinner

Capel St Gofan

Dyma le i fod yn un â’r hynafiaid a’r ysbrydion; man pererindota canoloesol mewn lleoliad dramatig yng nghesail y clogwyn uwchlaw Môr yr Iwerydd - ac mae’n rhaid dilyn rhes o risiau cerrig hynafol i’w gyrraedd.

Bosherston, Pembrokeshire

Oriau agor

Safle awyr agored, yn lle hygyrch fel arfer ar unrhyw adeg resymol.

Cyfeiriad

Trwyn St Gofan
Bosherston
Pembrokeshire
SA71 5DR

Bu eglwys St Gofan yn enwog ar un adeg am ei gallu i iacháu, a chan fod nifer o hen chwedlau yn gysylltiedig â hi, mae’n parhau i ddenu cannoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn llochesu’n wyrthiol yn y creigiau calchfaen rhwng y môr a brig y clogwyn ar bentir mwyaf deheuol Sir Benfro, mae’r cysegrfan wyth cant oed hwn yn lle sy’n tanio’r dychymyg ac yn cyffwrdd â’r oesoedd a fu.

Cysegrwyd yr eglwys i St Gofan, mynach Gwyddelig o Lwch Garmon (Wexford) ac mae’n un o amryw o eglwysi yng Nghymru a gafodd eu sefydlu ar lecyn hudol gan sant o’r bumed neu’r chweched ganrif. Yn ôl y chwedl, roedd St Gofan yn cael ei erlid gan giang o forladron pan agorodd hollt yn y clogwyn uwch ei ben, a llwyddodd i guddio yno’n ddiogel, gyda’r clogwyn yn cau amdano. Wedi i’r morladron adael, agorodd yr hollt unwaith eto – a daeth St Gofan allan a sefydlu capel yn y fan a’r lle, i ddathlu’r gobaith newydd a buddugoliaeth y da dros y drwg. Bu farw yn 586, ac mae wedi ei gysylltu â Gwalchmai fab Gwyar, yr arwr yn y chwedl ‘Syr Gawain a’r Marchog Gwyrdd’ o chwedlau’r Brenin Arthur, ac hefyd â chymeriadau rhai o chwedlau’r Mabinogi.

Mae’r man pererindota hynafol hwn wedi ei adeiladu o galchfaen lleol. Mae ei do ar ffurf bwa.  Canolbwynt y tu mewn syml yw allor garreg ddi-addurn sy’n llawer hŷn na’r waliau cerrig. Mae yno feinciau isel a phisgina (cawg o ddŵr) yn y wal uwchben lle roedd ffynnon yn ffrydio, a lle y byddai’r offeiriad yn golchi ei ddwylo. Ewch trwy’r drws ac i mewn i’r ogof fach sydd yn ymyl yr allor – dyma gell meudwy gwreiddiol St Gofan – ac a welwch chi’r rhychau yn y garreg? Dywedir eu bod yn ôl asennau St Gofan. Y tu allan i’r capel, sylwch ar y pridd clai coch sydd o’i amgylch – dywedir bod gan y pridd hwn y gallu i iacháu ac felly hefyd y ffynnon sanctaidd, sydd wedi hen sychu erbyn hyn  - ond lle mae dymuniadau cudd yn cael eu gwneud o hyd. Arhoswch am eiliad i gofio am St Gofan a’r holl bererinion sydd wedi dod yma dros y canrifoedd, yn chwilio am nerth ac am gysur.

Contact information

Other nearby churches

Eglwys Santes Fair

Herbrandston, Pembrokeshire

Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.

Sant Eloi

Llandeloi, Pembrokeshire

Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.

Santes Fair

Maenclochog, Pembrokeshire

Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.