PembrokeshireLLANDELOYStEloi(©crowncopyright2020)4 ©crowncopyright2020

Sant Eloi

Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.

Llandeloi, Pembrokeshire

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol. Peidiwch â dringo'r grisiau sy'n arwain at y groglen os gwelwch yn dda.

Cyfeiriad

Llandeloi
Pembrokeshire
SA62 6LJ

Ailadeiladwyd Eglwys Sant Eloi ar seiliau canoloesol yn 1926-7 ac mae’n nodweddiadol o waith mwy diweddar y pensaer, gan fod deunyddiau lleol a motiffau cynhenid Cymreig amlwg ynddi. Mae Perry Lithgow wedi cyflawni gwaith cadwriaethol yn ddiweddar ar y gwrthgefn allor lliwgar.

Mae St Eloi yn adeilad dwy siambr syml, gyda’r tu allan yn werinol yr olwg ond y tu mewn yn hardd ac yn wledd i’r synhwyrau. Y tu mewn i’r eglwys, mae croglofft brydferth, sgrîn wedi ei cherfio, a phulpud syml, y cyfan yn amlwg iawn yn erbyn wyneb gorllewinol y sgrîn ganoloesol. Mae dau fedyddfaen carreg yn yr eglwys, y cyntaf wedi ei adeiladu yn y fan a’r lle o gerrig hynafol a ddarganfuwyd wrth gloddio, a’r ail yn fedyddfaen wythonglog sy’n sefyll ar dri gris garw sydd yn fwy na thebyg, yn risiau canoloesol. Pan ddaethpwyd o hyd iddynt yn yr eglwys, cafodd y grisiau eu disgrifio yn rhai ‘perffaith’. Mae yna gawg hyfryd sy’n dal dŵr sanctaidd, a dwy bisgina (basn wrth ochr yr allor ar gyfer gwaredu’r dŵr gwastraff yn dilyn gweinyddu’r Offeren) sy’n cydweddu â’i gilydd, wedi eu cerfio o lechi llwyd. Mae’r gwrthgefn allor yn un o grŵp o gefnlenni tebyg a ddyluniwyd gan Coates Carter ar gyfer eglwysi yn Sir Benfro. Mae gwrthgefn St Eloi yn banel pren hirsgwar wedi ei baentio gan geso a’i liwio gan tempera. Mae’r panel mewn ffrâm sydd wedi ei mowldio a’i choroni â chribau cerfiedig cywrain. Mae’r ffrâm hefyd yn cynnwys enghreifftiau o is-bigynnau sy’n nodweddiadol o waith y pensaer.

Mewn cyferbyniad â’r holl ofal a chost, ni all meinciau cefn agored fod yn fyw gwerinol nac ychwaith yn fwy addas. Mae’n bleser gan y Cyfeillion Eglwysi Di-gyfaill warchod yr enghraifft werthfawr hon o eglwysyddiaeth, dyluniad a chrefftwaith y Mudiad Celf a Chrefft.

Contact information

Other nearby churches

Cadeirlan Tyddewi

Tyddewi, Pembrokeshire

Mae cadeirlan Tyddewi yn lle cysegredig, addoldy a chyrchfan pererinion a saif ar fraich o dir godidog yn Sir Benfro, ar lan Môr yr Iwerydd. Fe’i codwyd ar safle mynachlog a sefydlwyd yn y chweched ganrif gan Dewi Sant, Nawddsant Cymru.

Eglwys Santes Fair

Herbrandston, Pembrokeshire

Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.

Santes Fair

Maenclochog, Pembrokeshire

Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.