AngleseyLLANDDWYNISLANDStDwynwen(©crowncopyright2020)2 ©CrownCopyright2020

St Dwynwen

Mae Ynys Llanddwyn yn llecyn cyfareddol. Llanddwyn Island (Ynys Llanddwyn) is a magical place.

Ynys Llanddwyn, Anglesey

Oriau agor

Safle awyr agored, yn hygyrch o hyd.

Cyfeiriad

St Dwynwen
Ynys Llanddwyn
Anglesey
LL61 6SG

Mae’r llain gul o dir sy’n sefyll ar derfyn traeth braf yn ymyl Cwningar Niwbwrch yn lle delfrydol i gael picnic mewn tywydd braf – ond yn lle hefyd i godi calon yn ystod gwyntoedd oer y gaeaf. Mae ei thwyni tywod, creigiau mawr a’i chasgliad o adeiladau hanesyddol yn ei gwneud yn lle delfrydol ar gyfer prynhawn o chwilio a darganfod.

Enwir Ynys Llanddwyn ar ôl Santes Dwynwen, a giliodd i’r ynys yn gynnar yn y bumed ganrif pan roedd hi’n glaf o gariad. Roedd hi wedi disgyn mewn cariad gyda llanc o’r enw Maelon, ond roedd ei thad, y Brenin Brychan, am iddi briodi rhywun arall. Yn ôl y chwedl, ymwelodd angel â hi, gan roi iddi ddiod hud; o ganlyniad, iachawyd ei chalon ddrylliedig – a throwyd Maelon yn dalp o rew.

Yna, fe roddwyd iddi dri dymuniad.  Yn gyntaf, dymunodd fod Maelon yn cael ei ddadrewi; yn ail, dymunodd y byddai gwir gariadon yn cael gwireddu eu breuddwydion; ac yn olaf, dymunodd i beidio byth â phriodi. Yna, cysegrodd ei bywyd i Dduw, gan fyw ar yr Ynys nes iddi farw yn 465AD.

Daeth Dwynwen yn adnabyddus fel nawddsant cariadon – ac aeth pobl ar bererindod i ymweld â’i ffynnon sanctaidd ar yr ynys. Yn ôl y sôn, roedd yn bosib darogan ffyddlondeb cariad neu gymar trwy edrych ar symudiadau rhai o’r llyswennod a oedd yn byw yn y ffynnon. Byddai’r ferch yn gwasgaru briwsion bara a gosod ei hances ar wyneb y dŵr. Os cyffrowyd y dŵr gan y llyswennod, yna, byddai’r cariad yn ffyddlon iddi.

Byddai ymwelwyr yn gadael rhoddion yn ei chysegrfa – ac roedd yr ynys mor boblogaidd fel man pererindota, cynyddodd mewn cyfoeth nes iddo fod y lle cyfoethocaf yn yr ardal yn ystod y cyfnod Tuduraidd. Defnyddiwyd yr arian i adeiladu capel o faint sylweddol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, ar safle capel gwreiddiol Dwynwen. Mae adfeilion y capel hwn i’w gweld hyd heddiw.

O’r bwrdd gwybodaeth mawr, cymerwch y llwybr amlwg ar hyd yr ynys i gyrraedd olion y capel.

Contact information

Other nearby churches

Sant Baglan

Llanfaglan, Gwynedd

Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.

St Cwyfan

Llangwyfan, Anglesey

Gall yr ynys ymddangos yn lle rhyfedd a pheryglus i godi eglwys – ond safai eglwys St Cwyfan yn wreiddiol ar ddiwedd penrhyn rhwng dau fae, fel y gwelir ar fap John Speed o Ynys Môn yn 1610 / 1611.

Sant Mair

Tal y Llyn, Anglesey

Mae eglwys St Mair, Tal y Llyn yn sefyll mewn mynwent helaeth iawn, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos yn fechan iawn.