AngleseyAMLWCHOurLadyStarSea(tukbasslerCC-BY-SA4.0)1 TukBassler

Ein Harglwyddes Seren Y Môr a Santes Gwenfrewi

Mae Ein Harglwyddes, Seren Y Môr a Santes Gwenfrewi yn eglwys arloesol, eiconig o’r 1930au. Fe’i cynlluniwyd gan bensaer Eidalaidd a fu’n garcharor rhyfel. Priododd y pensaer Gymraes, gan ymgartrefu yng Nghonwy.

Amlwch, Anglesey

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Bull Bay Road
Amlwch
Anglesey
LL68 9ED

Bydd edmygwyr Moderniaeth yn gwirioni ar eglwys Ein Harglwyddes, Seren y Môr. Fe’i cynlluniwyd yn 1932 gan Giuseppe Rinvolucri, Eidalwr o Piedmont a ddaeth i Brydain yn garcharor rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i chysegru i’n Harglwyddes y Santes Fair, yn ogystal â’r santes Gymraeg o’r seithfed ganrif, Santes Gwenfrewi, ystyrir eglwys Ein Harglwyddes, Seren y Môr yn un o adeiladau gwirioneddol eiconig yr ugeinfed ganrif – ac mae’n cael ei chydnabod yn gampwaith Rinvolucri.

Wedi’i lleoli ar lwybr arfordirol Ynys Môn ac yn edrych i gyfeiriad Môr Iwerddon, cynlluniwyd yr eglwys i efelychu corff llong wedi'i throi’n wyneb i waered. Gyda ffenestri portwll yn agos at y gwaelod, mae ei ffurf yn deyrnged i dreftadaeth forol Amlwch, a lleoliad y pentref yn nannedd y gwynt a’r môr. Roedd yn bosib adeiladu’r eglwys yn ôl y fath ddyluniad dyfodolaidd oherwydd darganfyddiad y deunydd newydd ‘concrit cyfnerth’ – deunydd a ddaeth yn boblogaidd ar draws Ewrop fel mynegiant o’r Oes Fodern. Mae to bwa yr eglwys wedi ei adeiladu o goncrit cyfnerth a bric ac yn sefyll ar chwe bwa sy’n edrych o’r tu allan fel ‘asennau’ - yn debyg i’r rhai a geir ar long.

Mae’r tu mewn yn syfrdanol o drawiadol, gyda’r adeilad yn lapio’r ymwelydd yn glyd yn ei linellau crwm. Gyda’r nos, mae’r eglwys yn rhoi’r argraff ei bod yn disgleirio, gyda’r golau o’r tu mewn yn pefrio’n hudolus trwy’r tri phanel cul o wydr clir a glas, sy’n ymestyn ar hyd yr asennau cyfan. Mae pum seren gwydr bach a wnaed yn Ffrainc yn ymddangos yn nhalcen crwn y pen dwyreiniol ac o amgylch yr allor, gydag un seren fawr yn nhalcen y pen deheuol, yn dynodi’r brif fynedfa. Mae’r ffenestri portwll yn ffenestri neuadd y plwyf ar y llawr gwaelod, o dan brif gorff yr eglwys.

Adeiladwyd ffasâd yr eglwys yn wreiddiol o gerrig garw, gyda’r darn o amgylch y ffenestr siâp seren yn cael ei orchuddio â phlastr llyfn. Dyma fel yr oedd hyd yn hwyr yn y 1950au neu yn gynnar yn y 1960au, pan gafodd y cerrig garw eu gorchuddio’n llwyr. Triniwyd y plastr yn fedrus gan y plastrwr, gan ei addurno i’w gwneud yn debyg yr olwg i garreg nadd.

Bu eglwys Ein Harglwyddes yn hafan glyd i forwyr a theithwyr at ei gilydd, ond oherwydd effaith stormydd garw dros y blynyddoedd, bu’n rhaid ei chau yn 2004. Yn dilyn dirywiad yn y concrit, ystyriwyd yr adeilad rhestredig Gradd II* yn anniogel - ac roedd cost y gwaith o’i atgyweirio y tu hwnt i allu ariannol y plwyfolion. O ganlyniad, roedd mewn perygl o gael ei dymchwel. Ond daeth y gymuned leol at ei gilydd i lansio ymgyrch, a ffurfiwyd Grŵp Cyfeillion  - a llwyddwyd i godi £1.4 miliwn, yn cynnwys grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a ninnau, Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi. O ganlyniad, achubwyd y trysor cenedlaethol hwn ar gyfer y genedl, ac yn 2011, fe’i hagorwyd drachefn ar gyfer cynnal gwasanaethau a chroesawu ymwelwyr. 

Contact information

Other nearby churches

St Padrig

Llanbadrig, Anglesey

Mae eglwys St Padrig yn sefyll yn un o olygfeydd prydferthaf Ynys Môn; mae’n fangre i fyfyrio, lle mae tangnefedd yn teyrnasu.

Sant Figael

Llanfigael, Anglesey

Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.