GwyneddPENLLECHStMary(tukbasslerCC-BY-SA4.0)1 TukBassler

Sant Mair

Wedi ei lleoli ym Mhen Llŷn, mae eglwys St Mair yn tarddu o’r Oesoedd Canol.

Penllech, Gwynedd

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Penllech
Gwynedd
LL53 8AZ

Yr unig nodwedd ynddi sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn yw’r bedyddfaen, sef maen hir wedi’i naddu’n fras, gyda’i wyneb mewnol wedi’i baentio’n wyn a’i osod yn isel yn y maen ei hun.

Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn 1840 gan Samuel Jones, ar gynllun syml, diddyddiad.

Mae’r tu mewn yn waith gwerinol sy’n dyddio o’r cyfnod Sioraidd diweddar, gyda seddau blwch, meinciau a dwy elor yn pwyso yn erbyn y wal orllewinol. Ei phrif nodwedd yw’r seinfwrdd wythonglog uwchben y pulpud, gyda llun heuladdurn ag wyth o belydrau ar ei wyneb.

Yn ôl Matthew Saunders, yn ei Saving Churches:
'Yn gyffredinol, mae naws y lle yn cyfleu ymwybyddiaeth o genedlaethau o dras amaethyddol yn cyflwyno rhodd arbennig ond diymhongar i’w Duw. Ac mae’r cyfan yn dal i fod yno. Y rhesi o begiau het ar hyd waliau corff yr eglwys, y ddwy elor yn pwyso yn erbyn y wal gefn, gwaith llaw y gof wrth lunio’r drws, y meinciau cefn agored yng nghorff yr eglwys, a’r chwech o seddau blwch sy’n gwthio yn erbyn ei gilydd yn agos at y pulpud a’r allor  – a phob un ohonyn nhw wedi eu paentio yn eu llwyd golau gwreiddiol'.

Contact information

Other nearby churches

St Dwynwen

Ynys Llanddwyn, Anglesey

Mae Ynys Llanddwyn yn llecyn cyfareddol. Llanddwyn Island (Ynys Llanddwyn) is a magical place.

Sant Baglan

Llanfaglan, Gwynedd

Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.

St Tanwg

Llandanwg, Gwynedd

Saif eglwys hynafol St Tanwg yng nghanol y twyni tywod yn Llandanwg. Honnir iddi gael ei sefydlu yn y bumed ganrif gan St Tanwg ei hun, ac mae’n un o’r sefydliadau Cristnogol hynaf ym Mhrydain.