GwentMARSHFIELDStMary(johnlordCC-BY-SA2.0)1 JohnLord

Santes Fair

Mae Eglwys St Mair, Maerun, yn eglwys brydferth sy’n dyddio nôl i’r ddeuddegfed ganrif. Yn nythu’n glud yn y llain las rhwng Caerdydd a Chasnewydd, mae bellach yn adnabyddus am fod yn lleoliad ar gyfer un o episodau Dr Who!

Marshfield, Gwent

Oriau agor

Mwy o wybodaeth am yr eglwys hon i ddod yn fuan.

Cyfeiriad

Lôn yr Eglwys
Marshfield
Gwent
CF3 2UF

Adeiladwyd yr eglwys wreiddiol a gysegrwyd i’r Forwyn Fair, yn ystod teyrnasiad y Brenin Steffan (1135) gan yr Iarlles Mabel. Er iddi gael ei haddasu dros dreigl amser, mae’r tŵr a’r fynedfa ddeheuol yn ddarnau o’r adeilad gwreiddiol. Ychwanegwyd porth y fynwent yn 1914, a chafodd yr eglwys ei chofrestru’n adeilad rhestredig yn Ionawr 1963.

Yn fwy diweddar, ymddangosodd yr eglwys yn episod Nadolig y gyfres Dr Who, pan ddaeth yn lleoliad priodas Donna. Ond nid oes rhaid i chi fod yn ffan Dr Who i werthfawrogi prydferthwch yr eglwys a’i gerddi. Datblygwyd y gerddi i fod yn lloches bywyd gwyllt, gyda hadau blodau gwyllt, bocsys ar gyfer adar ac ystlumod, cychod ar gyfer gwenyn a thai ar gyfer glöynnod byw. Mae yno hefyd lecynnau i eistedd yn ddistaw, ymlacio a mwynhau’r golygfeydd.

Contact information

Other nearby churches

Yr Eglwys Norwyaidd

Bae Caerdydd, City of Cardiff

Anaml iawn y gwelwch yng Nghymru eglwys sydd â chladin pren gwyn – ac mae gan yr Eglwys Norwyaidd stori unigryw i’w hadrodd, yn ogystal â chysylltiad ag un o hoff awduron plant y byd: Roald Dahl.

Santes Catrin

Pontcanna, City of Cardiff

Adeiladwyd yr eglwys hon yn 1883-6 gan y pensaer J Prichard. Ei fwriad gwreiddiol oedd adeiladu eglwys ar ffurf croes, ond daeth yn amlwg bod hyn yn rhy uchelgeisiol - ac adeiladwyd tair cilfach cyntaf corff yr eglwys yn unig.

St Paul

Grangetown, City of Cardiff

Mae gwaith y pensaer John Coates Carter yn gyfrinach sydd wedi ei chadw’n ddiogel. Mae ei adeiladau’n ymgorffori y Mudiad Celfyddyd a Chrefft ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – a dywedir bod eglwys St Paul ymhlith y gorau o’i eglwysi cynnar sydd wedi goroesi.