FlintshireHAWARDENStDeiniol(billharrisonCC-BY-SA2.0)1 BillHarrison

St Deiniol

Mae eglwys wedi’i chysegru i Sant Deiniol wedi sefyll ar y safle hwn ers y chweched ganrif. Mae’r gynulleidfa’n ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng yr eglwys a theulu y Prif Weinidog Fictoraidd, William Ewart Gladstone.

Penarlâg, Flintshire

Oriau agor

Mae'r eglwys ar agor yn ddyddiol, fel arfer o ganol y bore tan ganol y prynhawn.

Cyfeiriad

Lôn yr Eglwys
Penarlâg
Flintshire
CH5 3LT

Codwyd yr eglwys drawiadol hon yn 1857, ac mae’n enwog am fod yn fan claddu’r gwleidydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, William Gladstone. Mae ei feddrod marmor wedi’i greu yn arddull y Mudiad Celfyddyd a Chrefft ac mae ganddo le amlwg iawn yng Nghapel Coffa’r teulu. Ceir hefyd yn yr eglwys ffenestr liw gan Edward Burne-Jones, sy’n dyddio o 1898.

Mae eglwys wedi’i sefydlu ym Mhenarlâg ers o leiaf y chweched ganrif, er bod y cofnod cyntaf o reithor yno yn dyddio o 1180. Adferwyd yr hen eglwys Normanaidd yn 1855, ond ddwy flynedd yn unig yn ddiweddarach, cafodd ei difrodi bron yn llwyr gan dân a gynnwyd yn fwriadol. Adferwyd yr eglwys unwaith eto gan Syr George Gilbert Scott, a lwyddodd i arbed ychydig o’r gwaith pren a’r ffenestri lliw o’r adeilad cynharach. Ychwanegwyd porth yn 1896 a oedd yn gweddu i’r dim ag adeilad Gilbert Scott, ac ychwanegwyd capel coffa William Gladstone yn 1901.

Cynlluniwyd Capel Coffa Gladstone gan John Douglas o Gaer yn unswydd i fod yn safle bedd a chofeb iddo, a dyluniwyd y gofeb ei hun gan Syr William Richmond ar gais mab Gladstone, Henry. Gosodwyd y gofeb yn 1906 ac mae’n enghraifft ragorol o gelfyddyd angladdol Fictoraidd ac yn gampwaith cerfluniol yn arddull y Mudiad Celfyddyd a Chrefft. Mae corffddelwau o Gladstone a’i wraig yn gorwedd ar eu hyd uwchben y beddrod gydag angel yn plygu drostynt, a’i adenydd yn ffurfio canopi. Mae’r holl ddelwau wedi eu cerfio o farmor Cerrera gwyn, ac o amgylch gwaelod y beddrod, mae ffurfiau dynol efydd sydd wedi eu gorchuddio ag arian. Mae’r beddrod ei hun wedi’i greu o farmor Sienna.

Mae mwyafrif y ffenestri wedi’u cysegru er cof am aelodau’r teuluoedd Glynne a Gladstone. Dyluniwyd y ffenestr orllewinol gan Morris & Company yn 1898, a dyma’r ffenestr olaf un a ddyluniwyd gan Edward Burne-Jones. Ef hefyd a ddyluniodd y ffenestr ddwyreiniol.

Ym mynwent yr eglwys, gwelir deial haul sy’n sefyll ar goes falwster, a chofeb i’r Rhyfel De Affrig. Nepell o’r eglwys mae Llyfrgell Gladstone, a sefydlwyd yn 1895 gan William Gladstone ei hun ar gost o £40,000. Cyflwynodd ei lyfrgell bersonol o 32,000 o lyfrau i’r llyfrgell, gan gludo y rhan fwyaf ohonyn nhw yno ei hun mewn whilber o’i gartref yng Nghastell Penarlâg.

Contact information

Other nearby churches

Eglwys Crist

Yr Orsedd, Clwyd

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y safle hwn yn 1841, ond fe’i difrodwyd yn ddifrifol gan dân. Yn ôl yr hanes, ym mis Mai 1891, cynhaliodd y Ficer ‘briodas yn yr adfeilion’.

St Tysilio

Llantysilio, Denbighshire

Saif eglwys St Tysilio mewn Ardal Gadwraeth, yn edrych dros yr Afon Dyfrdwy, yn ymyl Dyfrbont Pontcysyllte, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Wrth ymweld â’r lle, cewch eich ysgubo nôl tua phum can mlynedd.

Santes Gwenfrewi

Gwytherin, Clwyd

Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.