AngleseyLLANGWYFANStCwyfan(©crowncopyright2020)1 ©CrownCopyright2020

St Cwyfan

Gall yr ynys ymddangos yn lle rhyfedd a pheryglus i godi eglwys – ond safai eglwys St Cwyfan yn wreiddiol ar ddiwedd penrhyn rhwng dau fae, fel y gwelir ar fap John Speed o Ynys Môn yn 1610 / 1611.

Llangwyfan, Anglesey

Oriau agor

Ar agor trwy drefniant arbennig ymlaen llaw yn unig.

Cyfeiriad

Traeth Porth Cwyfan
Llangwyfan
Anglesey
LL63 5YR

Adeiladwyd sarn i gynorthwyo’r plwyfolion i gyrraedd yr ynys, ac mae olion y sarn i’w gweld o hyd. Hyd yn oed wedyn, byddai’r llanw uchel o dro i dro yn rhwystro’r plwyfolion rhag ei chyrraedd.  Pan ddigwyddai hyn, cynhaliwyd y gwasanaethau mewn tŷ gerllaw o’r enw Plas Llangwyfan, lle roedd ystafell a gysegrwyd yn unswydd ar gyfer y diben hwn.

Parhaodd y tonnau i erydu ochrau’r ynys hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd rhai o’r beddau ym mynwent yr eglwys syrthio i’r môr. Erbyn hyn, roedd eglwys newydd wedi ei chodi ar y tir mawr, ac roedd hen eglwys Llangwyfan yn ddianghenraid - a’i tho wedi diflannu’n llwyr.

Yn 1893, mynegodd Harold Hughes, pensaer lleol, bryder mawr am ddyfodol yr eglwys swynol hon, ac o ganlyniad, cododd arian i’w hachub. Adeiladodd forglawdd o amgylch yr ynys, ac adfer yr adeilad ei hun. Er i ran fwyaf o’r eglwys gael ei chodi yn ystod y ddeuddegfed ganrif, dim ond un darn o’r wal ddeheuol sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn. Cafodd y rhan fwyaf o’r waliau eu hailadeiladu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ychwanegwyd ystlys newydd i’r ochr ogleddol, gyda mynediad iddi ar hyd arcêd o dri bwa – ond cafodd ei dymchwel yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod y tir gerllaw yn erydu. Mae bwâu’r arcêd, sydd wedi eu mewnlenwi, i’w gweld erbyn hyn ar y wal allanol, gan i’r hen sment calch gael ei dynnu yn ystod y gwaith adfer yn 2006. Yn ystod y gwaith adfer hwn hefyd, gwyngalchwyd y waliau,  gan siomi’r gymuned leol a oedd wedi hen arfer â’r waliau llwyd.

Contact information

Other nearby churches

Sant Mair

Tal y Llyn, Anglesey

Mae eglwys St Mair, Tal y Llyn yn sefyll mewn mynwent helaeth iawn, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos yn fechan iawn.

St Dwynwen

Ynys Llanddwyn, Anglesey

Mae Ynys Llanddwyn yn llecyn cyfareddol. Llanddwyn Island (Ynys Llanddwyn) is a magical place.

Sant Peulan

Llanbeulan, Anglesey

Mae Sant Peulan yn tarddu o’r Oesoedd Canol, a saif ar ei phen ei hun ar derfyn ei sarn werdd uchel. I’w chyrraedd, mae’n rhaid troi oddi ar yr heol sydd ag arwydd am Dothan.