PowysBRECONBreconCathedral(©crowncopyright2020)2 ©CrownCopyright2020

Cadeirlan Aberhonddu

Mae’r Gadeirlan yn estyn croeso i bawb sy’n dod heibio – boed os ydych yn dwrist sy’n ymweld, yn addolwr sydd yno i offrymu eich gweddïau personol neu i oleuo cannwyll, neu yn rhywun sydd â diddordeb arbennig mewn hanes, pensaernïaeth neu ffenestri lliw.

Aberhonddu, Powys

Oriau agor

Ar agor 8.30am i 6.30pm.

Cyfeiriad

Clos y Gadeirlan
Aberhonddu
Powys
LD3 9DP

Adeiladwyd Cadeirlan Aberhonddu yn wreiddiol fel Priordy Benedictaidd Ioan yr Efengylydd yn 1093 gan y Normaniaid, ar safle hen eglwys Geltaidd. Yn dilyn diddymu’r mynachlogydd yn 1537, daeth yn eglwys y plwyf tref Aberhonddu. Yn dilyn Datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru yn 1920, sefydlwyd Esgobaeth newydd Abertawe ac Aberhonddu yn 1923 – a phenodwyd yr eglwys hon yn Gadeirlan yr Esgobaeth newydd.

Er nad yw’n adeilad mawr iawn, mae wedi ei sefydlu oddi fewn i glos muriog, yr unig un yng Nghymru. Erbyn heddiw, lleolir canolfan weinyddol yr Esgobaeth,  tai clerigwyr y Gadeirlan, Canolfan Dreftadaeth a Bwyty yn yr hyn sy’n weddill o’r hen adeiladau mynachaidd. Mae’r casgliad rhyfeddol hwn o adeiladau y gorau o’i fath yng Nghymru.


Mwynhewch daith rithwir o amgylch Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yma.

Contact information

Other nearby churches

Sant Ellyw

Llaneleu, Powys

Mae’r eglwys anghysbell hon yn sefyll yng nghanol mynwent helaeth, hynafol yn nyfnderoedd y Mynyddoedd Du, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Eglwys y Forwyn Fair

Capel y Ffin, Powys

Lleolir eglwys Sant Mair, Capel y Ffin yn nyffryn cudd yr afon Honddu, gyda’r Mynyddoedd Du i’r gorllewin iddi a Chlawdd Offa i’r dwyrain. Mae’n fan lle mae celfyddyd a thirwedd yn ymdoddi i’w gilydd – ac nid yw’n syndod felly iddi ddenu arlunwyr a beirdd am ganrifoedd.

Sant Isw

Petrisw, Powys

Cyrhaeddir yr eglwys hon trwy deithio naill ai ar hyd lonydd troellog sy’n gyforiog o flodau, neu ar hyd llwybr troed. Wrth gyrraedd, fe welwch yr eglwys ganoloesol hon yn sefyll ar lethrau’r Grwyne Fawr, yn edrych heibio cwm bychan at lethrau Mynydd Pen-y-Fâl yr ochr draw.