Teilo Sant, Llanddowror
Ym 1716 penodwyd Griffith Jones yn offeiriad yma gan ‘Good’ Syr John Philipps o stad Castell Pictwn, a oedd yn berchen ar eiddo’r pentref.
Bydd y dolenni yn mynd â chi naill ai i dudalen yr eglwys ar ein gwefan neu’r dudalen Pwyntiau Hanes manwl am ragor o wybodaeth.
Ym 1716 penodwyd Griffith Jones yn offeiriad yma gan ‘Good’ Syr John Philipps o stad Castell Pictwn, a oedd yn berchen ar eiddo’r pentref.
Saif yr eglwys o fewn yr hyn a oedd yn fryngaer driphlyg o'r Oes Efydd (2000CC-650CC). Mae’n cynnwys beibl ‘Peter Williams’ mawr, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Madam Bridget Bevan.
Adeiladwyd y capel hwn gan y Methodistiaid Calfinaidd, ger traeth Pentywyn, yn 1896 ac fe'i cysegrwyd i Peter Williams (1723-1796).
Yn 1709, daeth Griffith Jones yn gurad ac yn athro ysgol yma. Daeth ei bregethu mor enwog fel ei fod yn denu cynulleidfaoedd o hyd at 3,000, felly byddai'n aml yn pregethu y tu allan i'r eglwys.
Adeiladwyd y capel hwn yn 1831 ar y safle lle’r oedd yr athro gweledigaethol Peter Williams wedi agor ei dŷ i addolwyr Anghydffurfiol yn y 18fed ganrif.
Yn y fynwent mae bedd yr arweinydd Methodistaidd Peter Williams, a ysbrydolwyd gan Griffith Jones.
Darganfyddwch eglwysi a chapeli eraill yn Sir Gaerfyrddin gan ddefnyddio ein map.
Darganfyddwch fannau cysegredig rhyfeddol; datgodio eu celf a phensaernïaeth, datgelu eu hanesion cudd a mynd ar deithiau ysbrydoledig o ddarganfod o amgylch Ffordd Cymru newydd.