St Deiniol
Llanddeiniolen, Gwynedd
Mae eglwys Sant Deiniol, a ailadeiladwyd ym 1843, wedi'i lleoli o yng nghysgod y coed yw trawiadol, sydd wedi'u dogfennu'n swyddogol fel rhai sy'n 2,000 o flynyddoedd oed.
Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.
Porthaethwy, Anglesey
Roedd Tysilio yn un o feibion Brochfael Ysgrythrog, Brenin Powys. Dihangodd o lys ei dad i fyw fel mynach, ac ymhen hir a hwyr, cyrhaeddodd Ynys Môn gan sefydlu cell meudwy ar ynys yn yr Afon Menai oddeutu 630AD.
Ar ôl saith mlynedd, symudodd i fod yn Abad Meifod ym Mhowys, lle y dechreuodd dderbyn ei hyfforddiant crefyddol. Mae nifer o’r farn ei fod yr un person â Sant Suliac, a sefydlodd ganolfan grefyddol yn Llydaw.
Yn yr un modd â holl safleoedd crefyddol cynnar yng Nghymru, mae’r adeiladau gwreiddiol wedi hen ddiflannu. Mae’r adeilad sydd yno erbyn hyn yn dyddio o flynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif, er bod gwaith adfer sylweddol wedi cael ei gyflawni arno yn y 1890au. Gosodwyd y ffenestr ddwyreiniol yn ystod y cyfnod hwn, yn atgynhyrchiad o’r un gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif. Llwyddwyd i gadw cyplau pren gwreiddiol y to, a daw’r bedyddfaen wythonglog o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Un nodwedd anghyffredin ond deniadol yw’r prif ddrws. Mae bwlch y drws yn y wal yn siâp petryal, gyda’r drws ei hun yn siâp cyfatebol – ond serch hyn, mae ffrâm dderw enfawr gyda phen bwa crwn wedi ei gosod yn y wal, o amgylch y bwlch ei hun.
Fel mewn sawl mynwent, mae cryn ddiddordeb hanesyddol yng ngherrig beddi’r ynys. Ceir trawstoriad eang o feddau teuluoedd lleol ond ceir yn ogystal feddau rhai o weithwyr y pontydd a fu farw wrth weithio arnynt, ynghyd â beddau rhai gweithwyr a ymgartrefodd yn lleol wedi i’r gwaith ar y pontydd ddod i ben. Mae’r bardd enwog, Cynan, wedi ei gladdu yno yn ogystal â rhai o deulu’r Davies, sef teulu busnes llwyddiannus yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar gopa’r ynys, mae cofeb i’r gwŷr lleol a fu farw yn ystod y rhyfeloedd byd. Dyma’r lle gorau i edrych ar Afon Menai a’r ddwy bont sy’n ei chroesi.
Llanddeiniolen, Gwynedd
Mae eglwys Sant Deiniol, a ailadeiladwyd ym 1843, wedi'i lleoli o yng nghysgod y coed yw trawiadol, sydd wedi'u dogfennu'n swyddogol fel rhai sy'n 2,000 o flynyddoedd oed.
Llandinorwig, Gwynedd
Wedi'i leoli ar y ffordd sy'n arwain at Dinorwig, gyda golygfeydd godidog o'r bryniau a'r mynyddoedd o gwmpas.
Nant Peris, Gwynedd
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.