ClwydRHOSONSEAStTrillo(daviddixonCC-BY-SA2.0)1 DavidDixon

St Trillo

Mae’r adeilad syml, to carreg, bach iawn hwn, yn wyth troedfedd o uchder ac un droedfedd ar ddeg o hyd; mae ei waliau o drwch dwy droedfedd ac o dan ei allor, mae ffynnon sanctaidd St Trillo.

Llandrillo yn Rhos, Clwyd

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Trwyn Llandrillo yn Rhos
Llandrillo yn Rhos
Clwyd
LL28 4HS

Ai hwn yw’r capel lleiaf ym Mhrydain? Gyda seddau ar gyfer chwech o bobl yn unig, mae’n bosib iawn y gall gystadlu am yr enw hwn. Mae’r capel yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’n bosib ei fod wedi ei adeiladu ar safle eglwys hŷn, ar orchymyn mynachod Sistersaidd Abaty Aberconwy. Yn 1935, cafodd y capel ei adfer yn ofalus a’i ailgysegru gan William Thomas Havard, Esgob Llanelwy.

Cysegrir y capel i St Trillo, hen sant o’r chweched ganrif a oedd â chysylltiadau lleol. Saif yr allor uwchben tarddell naturiol y credir ei bod yn ffynnon sanctaidd hynafol, a defnyddiwyd dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau’r plwyf.

Mae carreg sgwâr yn gorchuddio ffynnon St Trillo erbyn hyn, ond gellir ei symud i gael at y ffynnon sanctaidd ei hun. Oesoedd maith yn ôl, roedd y ffynnon yn enwog am ei gallu i iachau. Hyd yn oed heddiw, fe’i defnyddir ar gyfer gwasanaethau bedydd, ac mae’r capel ar agor ar gyfer gweddi ddyddiol a myfyrdod. Oherwydd ei faint, dim ond ychydig o bobl a all ymweld â’r capel ar y tro. Mae ffenestr liw yn y capel sy’n portreadu un o’r seintiau Celtaidd eraill, sef Sant Eilian.

Roedd St Trillo yn Sant o’r chweched ganrif a ddaeth o Lydaw. Roedd yn fab i’r Brenin Ithel Hael. Daeth i Gymru yn genhadwr gydag aelodau eraill o’i deulu, yn cynnwys ei frodyr, St Tegai a St Twrog. Mae’n ymddangos i St Trillo fyw fel meudwy ar y safle hwn rywdro rhwng 570 a 590 AD. Cafodd ei gladdu ar ynys sanctaidd Enlli, oddi ar arfordir Cymru.

Contact information

Other nearby churches

Capel Seion

Rowen, Gwynedd

Mae’r capel yn adeilad rhestredig gradd II gyda chynllun anarferol ac yn gartref i arddangosfa o hanes lleol a hanes anghydffurfiaeth yng Nghymru.

Santes Gwenfrewi

Gwytherin, Clwyd

Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.

St Tysilio

Porthaethwy, Anglesey

Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.