GwyneddROWENCapelSeion(aneurinphillipsPERMISSIONBYEMAIL)1 AneurinPhillips

Capel Seion

Mae’r capel yn adeilad rhestredig gradd II gyda chynllun anarferol ac yn gartref i arddangosfa o hanes lleol a hanes anghydffurfiaeth yng Nghymru.

Rowen, Gwynedd

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol yn ystod golau dydd; unwaith bydd y pandemig ar ben.

Cyfeiriad

Gwynant
Rowen
Gwynedd
LL32 8YT

Credir i'r adeilad cyntaf gael ei godi tua 1819, ei ail-adeiladu yn 1841 ac yna ei ehangu yn 1864/5 i ddal cynulleidfa o 350. Adeiladwyd stablau y flwyddyn ganlynol ac yna ysgoldy yn 1882. Mae gwedd syml allanol y capel yn cynnwys nodweddion pensaernïol yn perthyn yn arbennig i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg megis ffenestri a drysau ar ffurf bwa. Tu mewn ceir cynllun sgwâr gyda thair ystlys yn hytrach na'r ddwy arferol, llawr ar ogwydd er mwyn i'r gynulleidfa gael gweld y pulpud yn well a rhosynnau nenfwd cain. Yn ogystal â bod yn fan addoli, mae'r capel yn gartref i arddangosfa o hanes lleol, gan gynnwys lluniau a hanes y teuluoedd oedd yn addoli ynddo yn y dyddiau cynnar ac enghreifftiau o'r biliau am y gwaith ehangu yn 1865. Mae ynddo hefyd arddangosfa o hanes anghydffurfiaeth yng Nghymru. Lleolir y capel ar Daith Pererin Gogledd Cymru, mae’n un o’r atyniadau sy’n cael eu rhestru ar y daith, ac yn y cyntedd ceir arddangosfa a gwybodaeth am y llwybr.

  • Gwasanaethau yn Gymraeg bob trydydd dydd Sul, gwasanaethau Saesneg unwaith y mis ac Ysgol Sul fisol.

Contact information

Other nearby churches

St Trillo

Llandrillo yn Rhos, Clwyd

Mae’r adeilad syml, to carreg, bach iawn hwn, yn wyth troedfedd o uchder ac un droedfedd ar ddeg o hyd; mae ei waliau o drwch dwy droedfedd ac o dan ei allor, mae ffynnon sanctaidd St Trillo.

Santes Gwenfrewi

Gwytherin, Clwyd

Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.

St Peris

Nant Peris, Gwynedd

Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.