DenbighshireLLANTYSILIOStTysilio(llywelyn2000CC-BY-SA3.0)1 Llywelyn2000

St Tysilio

Saif eglwys St Tysilio mewn Ardal Gadwraeth, yn edrych dros yr Afon Dyfrdwy, yn ymyl Dyfrbont Pontcysyllte, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Wrth ymweld â’r lle, cewch eich ysgubo nôl tua phum can mlynedd.

Llantysilio, Denbighshire

Oriau agor

9.30am i 4pm yn y gaeaf.
9.30 i 6pm yn yr haf.

Cyfeiriad

Llantysilio
Denbighshire
LL20 8BT

Mae’r eglwys yn dyddio o 1180, ond mae pobl wedi bod yn addoli ar y safle arbennig hwn ers y chweched ganrif.

Oddi fewn i’r eglwys, cewch ddarganfod baneli derw a bedyddfaen sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yno hefyd mae darllenfa ag eryr du – neu yn nhyb rhai, brân - hynod iawn wedi’i gerfio arni; dim ond dwy enghraifft o’r math hwn o ddarllenfa ganoloesol sy’n bodoli, ac mae’r llall yn yr Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain. Mae’r gwydr yn y ffenestr gwahangleifion yn dangos ôl arddull gyntefig o roi gwydr lliw at ei gilydd, tra bod y ffenestr orllewinol yn enghraifft odidog o ddyluniad yn arddull y Mudiad Cyn-Raffaelaidd.

Mae plac ger y pulpud yn cofnodi’r nifer o ymweliadau a wnaed gan Robert Browning i’r ardal, pan ddarllenodd y llith yn ystod y gwasanaethau.

Mae’r eglwys yn enwog am fod â thoreth o eirlysiau, a chynhelir gwasanaeth arbennig bob mis Chwefror i’w bendithio.

Contact information

Other nearby churches

Eglwys Crist

Yr Orsedd, Clwyd

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y safle hwn yn 1841, ond fe’i difrodwyd yn ddifrifol gan dân. Yn ôl yr hanes, ym mis Mai 1891, cynhaliodd y Ficer ‘briodas yn yr adfeilion’.

St Deiniol

Penarlâg, Flintshire

Mae eglwys wedi’i chysegru i Sant Deiniol wedi sefyll ar y safle hwn ers y chweched ganrif. Mae’r gynulleidfa’n ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng yr eglwys a theulu y Prif Weinidog Fictoraidd, William Ewart Gladstone.

Santes Gwenfrewi

Gwytherin, Clwyd

Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.