Eglwys Crist

Wedi'i leoli ar y ffordd sy'n arwain at Dinorwig, gyda golygfeydd godidog o'r bryniau a'r mynyddoedd o gwmpas.

Llandinorwig, Gwynedd

Oriau agor

Trwy drefniant.

Cyfeiriad

Llandinorwig
Gwynedd
LL55 3NG

Gosodwyd y garreg sylfaen ar Ebrill 19eg, 1856 a chysegrwyd yr eglwys ar Fedi 24ain, 1857 gan Esgob Bangor ar y pryd, Dr Christopher Bethel. Heddiw ac ers iddi gael ei hagor mae'r eglwys wedi bod yn rhan annatod o'r gymuned.

Y pensaer wrth adeiladu Eglwys Crist oedd Henry Kennedy, a oedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu eglwysi adnabyddus eraill yn Esgobaeth Bangor. Chwaraeodd dylanwad yr ‘Ecclesiological Society’ a'r ‘Oxford Movement’ eu rhan yn ffurfio’r eglwys a Mr Thomas Assheton Smith, perchennog Stad y Faenol, a hefyd perchennog Chwarel Dinorwig, oedd cymwynaswr yr eglwys, y fynwent, y ficerdy ac ysgol yr eglwys gerllaw. Ar ddydd cysegriad, doedd dim dyled o gwbl gan yr eglwys.

  • Captivating architecture

  • Enchanting atmosphere

  • Fascinating churchyard

  • Glorious furnishings

  • Social heritage stories

  • Spectacular stained glass

  • Dog friendly

  • Level access to the main areas

  • On street parking at church

  • Space to secure your bike

  • Walkers & cyclists welcome

  • Church in Wales

Contact information

Other nearby churches

St Deiniol

Llanddeiniolen, Gwynedd

Mae eglwys Sant Deiniol, a ailadeiladwyd ym 1843, wedi'i lleoli o yng nghysgod y coed yw trawiadol, sydd wedi'u dogfennu'n swyddogol fel rhai sy'n 2,000 o flynyddoedd oed.

St Peris

Nant Peris, Gwynedd

Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.

St Tysilio

Porthaethwy, Anglesey

Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.