Grantiau Cherish

Statws: Ar agor

Y dyddiad cau nesaf: 13 Awst 2024.

Maint y Grant: £500 i £10,000

Cost y Gwaith: Hyd at £80,000 (gan gynnwys TAW a ffioedd)

Mae ein prosiect Cherish yn darparu grantiau rhwng £500 a £10,000 i’ch eglwys, eich capel neu’ch tŷ cyfarfod ar gyfer cynnal a chadw eglwys, gwaith atgyweirio brys neu ddatblygu prosiect. Mae grantiau Cherish ar gael diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chaiff y prosiect ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

National Lottery Heritage Fund acknowledgement stamp in Welsh

Gwybodaeth i ymgeiswyr

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan addoldai Cristnogol rhestredig ac anrhestredig, o unrhyw enwad, sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd-orllewin Lloegr (Cumbria, Swydd Gaerhirfryn neu Fanceinion Fwyaf yn unig), Cymru, neu’r Alban.

  • Rhaid i'r gwaith arfaethedig fod ar brif adeilad yr eglwys neu'n estyniad iddo.

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchenogion yr eglwys neu fod â'r hawl i wneud y gwaith.

  • Rhaid i adeiladau fod ar agor ar gyfer addoli cyhoeddus rheolaidd am o leiaf chwe gwasanaeth y flwyddyn.

  • Rhaid i adeiladau fod ar agor i'r cyhoedd am o leiaf 100 o ddiwrnodau’r flwyddyn yn ogystal ag amseroedd addoli, neu fodloni'r gofyniad hwn o fewn blwyddyn i gwblhau'r prosiect.

  • Rhaid i brosiectau atgyweirio gael eu harwain, eu harolygu a'u goruchwylio gan weithiwr proffesiynol sydd â chymwysterau addas.

  • Rhaid i’r gwaith beidio â chael ei ddechrau cyn i'r cais ar-lein gael ei gyflwyno ond rhaid iddo fod yn gyraeddadwy o fewn blwyddyn i'r penderfyniad grant gael ei wneud.

  • Mae'n rhaid eich bod wedi sicrhau o leiaf 50% o'r cyllid ar gyfer y prosiect yr ydych yn gwneud cais i ni amdano cyn i chi gyflwyno'ch cais.

  • Rhaid bod gennych 2 ddyfynbris a'r holl ganiatâd sydd ei angen.

Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau canllaw isod yn gyntaf. Mae'r nodiadau canllaw yn cynnwys nodiadau ar y meini prawf sgorio, cyngor ar lenwi'r ffurflen gais, rhestr o’r dogfennau ategol y bydd eu hangen gennych, a manylion telerau ac amodau unrhyw grant a ddyfernir.

Nodiadau canllaw

Darllenwch y nodiadau Canllaw yn drylwyr cyn gwneud cais.

Gwneir penderfyniadau ar bob cais am grant gan Bwyllgor Grantiau’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, sy’n cynnwys arbenigwyr yn y sectorau eglwysig a threftadaeth o bob rhan o Brydain Fawr. Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.

Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Grantiau.

PowysOLDRADNORSt Stephen(shirokazanCC-BY-SA2.0)1
Shirokazan

Ready to apply?

Before starting your application, please make sure you have read the guidance notes for your grant and that you meet the eligibility criteria for churches.

Application form

FAQs

Frequently asked questions about our grants

Find out more

Get more support with our training events

Find out more and sign up