Capel y Tabernacl, Treforys

Published: Thursday, September 28, 2017

 

Mae arweinyddion y llywodraeth ac arweinyddion dinesig wedi ymuno yn y dathliadau i nodi lle Capel y Tabernacl, Treforys yn hoff eglwys neu gapel Cymru.

 Yn y digwyddiad , cyflwynwyd i Gapel y Tabernacl dlws gwydr arbennig ‘Cymru Sanctaidd’, wedi’i ddylunio gan Sandra Snaddon, Cymrawd Urdd yr Ysgythrwyr Gwydr. Derbyniodd y capel hefyd wobr o £500 oddi wrth Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.

Pleidleisiwyd Capel y Tabernacl yn Nhreforys, Abertawe, yn hoff addoldy Cymru yng nghystadleuaeth  ‘Cymru Sanctaidd’ a gynhaliwyd yr haf hwn, lle pleidleisiodd y cyhoedd dros eu hoff eglwys neu gapel yng Nghymru.  

Curodd Capel y Tabernacl 49 o eglwysi a chapeli eraill mewn pleidlais ar lein ar y wefan www.sacredwales.org.uk. Trefnwyd y gystadleuaeth ‘Cymru Sanctaidd’ gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi i ddathlu eglwysi a chapeli Cymru.   

Dywedodd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:

“Llongyfarchiadau i Gapel y Tabernacl, Treforys ar ennill y wobr hon o flaen sawl adeilad crefyddol, gwych arall ledled Cymru. Mae cystadleuaeth ‘Cymru Sanctaidd’ yn cydnabod ac yn dathlu rôl bwysig adeiladau crefyddol yn niwylliant a threftadaeth Cymru."

Dywedodd Huw Tregelles Williams, yn cynrychioli Capel y Tabernacl: 

“Rwyf wrth fy modd fod Tabernacl, Treforys wedi ennill Gwobr Cymru Sanctaidd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe’n gweithio tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r adeilad eiconig hwn, sydd yn gapel ac yn lleoliad perfformio. Yn sgil rhaglen adfer £1.5m, mae yn awr mewn cyflwr gwell na’r hyn y mae modd ei gofio ac mae’n amlwg iddo gael ei edmygu gan berfformwyr a chynulleidfaoedd yn y llu cyngherddau a gynhaliwyd yno dros y blynyddoedd”

Dywedodd Huw Edwards, darlledwr a newyddiadurwr ac Is-lywydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi:

“Rwyf wrth fy modd fod Capel y Tabernacl, ‘Cadeirlan y capeli’ wedi ennill cystadleuaeth ‘Cymru Sanctaidd Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi i ganfod hoff eglwys neu gapel Cymru.”

“Gyda’i wyth colofn a bwa Corinthaidd anferth a meindwr godidog, mae’r Tabernacl yn adeilad nad oes modd ei fethu yng Nghwm Tawe Isaf. Mae’r capel yn parhau i fod yn ganolfan fywiog i’r gymuned, yn cynnal grwpiau diwylliannol lleol, ymarferion côr wythnosol gan gorau lleol, diwrnodau gweithgaredd ar gyfer y rhai dan anfantais a’r anabl ac, wrth gwrs, gwasanaethau rheolaidd ar y Sul.”

“Mae ‘Cymru Sanctaidd’ wedi arddangos 50 o eglwysi a chapeli harddaf  a mwyaf hanesyddol Cymru. Mae hi wedi bod yn ddathliad gwych o rai o adeiladau crefyddol harddaf y byd.” 

Dywedodd y Gwir Hybarch Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Phillip Downing:

“Llongyfarchiadau i Gapel y Tabernacl ar gael ei ddewis yn ddiweddar yn hoff addoldy Cymru. Mae adeiladau crefyddol a threftadaeth Abertawe’n bwysig ac mae gofyn gofalu amdanynt a rhoi sylw iddynt. Mae Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Cais am ‘Dinas Diwylliant 2017’ ac mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r diwylliant a’r dreftadaeth sydd gennym yn y Ddinas er mwyn cynnal hyn wrth fwrw ymlaen yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: 

“Fel bachgen balch o Dreforys, rwyf wrth fy modd y pleidleisiwyd Capel y Tabernacl yn hoff addoldy Cymru. Mae’r anrhydedd hwn yn dyst i bawb oedd ynghlwm â gwaith gweinyddol a chynnal yr adeilad."

“Mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn, ochr yn ochr â’n partneriaid, i ddiogelu a dathlu adeiladau hanesyddol fel hyn. Dyna pam y mae adolygiad o Ardal Gadwraeth Treforys, a ddynodwyd yn gyntaf yn 1975, wedi’i gynnal yn ddiweddar ac rydym wrthi’n ymgynghori yn ei gylch ar hyn o bryd."

Bydd yr holl adborth y byddwn yn ei dderbyn yn llywio polisi cynllunio yn y dyfodol fydd â’r nod o warchod treftadaeth a chymeriad Treforys yn well nag erioed o’r blaen.” 

Capel y Tabernacl

Dyluniwyd Capel y Tabernacl, adeilad rhestredig Gradd I, gan y pensaer o Gymro, John Humphreys, ac agorodd yn 1870. Dywedwyd mai hwn oedd y capel mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru gan gostio £18,000, swm enfawr bryd hynny. Fe’i hadwaenir yn 'Cadeirlan Anghydffurfiaeth Gymreig’ ac nid yw’r tu mewn iddo na’i osodiadau wedi newid fawr ddim.

Rhagor o ddathlu

Bydd rhagor o ddathlu i nodi lle Capel y Tabernacl yn hoff addoldy Cymru ddydd Sul, 1 Hydref 2017 am 7.00pm mewn cyngerdd i’r gymuned gyfan gan leisiau ifainc Côr Merched Hywel, Côr Bechgyn Hywel ac Angelicus Celtis, côr a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent ar ITV ac artistiaid ar Songs of Praise y BBC, gan roi lle amlwg i uchafbwyntiau poblogaidd o fyd cerddoriaeth sanctaidd, opera a theatr gerdd. Bydd yr holl elw’n mynd i Hosbis Tŷ Olwen.