St Peris
Nant Peris, Gwynedd
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.
Saif eglwys hynafol St Tanwg yng nghanol y twyni tywod yn Llandanwg. Honnir iddi gael ei sefydlu yn y bumed ganrif gan St Tanwg ei hun, ac mae’n un o’r sefydliadau Cristnogol hynaf ym Mhrydain.
Llandanwg, Gwynedd
Mae’r eglwys bresennol, sy’n sefyll ar y blaendraeth rhyw 20 medr o’r marc penllanw, yn adeilad o’r cyfnod canoloesol cynnar. Oddi fewn iddi, ceir tair carreg ag arysgrifen sy’n dyddio o’r bumed a’r chweched ganrif, a dwy garreg â chroes wedi ei hendorri arnynt. Yn y fynwent mae bedd y bardd Sion Phillips, un o gyfoedion Shakespeare a oedd yn byw yn Ynys Fochras gerllaw; cafodd ei foddi wrth iddo groesi o’r ynys i Landanwg yn 1620.
Mae’r adeilad ei hun yn 57 troedfedd o hyd a 23 troedfedd o led, wedi’i godi o rwbel, ac â chorff a changell di-dor. Adeiladwyd y corff tua’r drydedd ganrif ar ddeg ac ehangwyd y gangell yn gynnar yn y bymthegfed ganrif, pan osodwyd ynddi ffenestr ddwyreiniol anghyffredin o uchel. Mae’r to yn wreiddiol ac yn cynnwys tair ffrâm goler gyda bwâu cynnal dwyreiniol. Mewn cyfnod diweddarach, gosodwyd byrddau pren arnynt – a chofnodir eu bod wedi eu haddurno â lluniau. Mae braslun o’r cyfnod yn dangos lluniau o symbolau awduron Efengylau’r Testament Newydd, ac angel a diafol hwyliog wyneb yn wyneb â’i gilydd.
Mae’r colofnfaen wyth troedfedd o hyd sy’n gorwedd wrth yr allor o ddiddordeb arbennig gan ei fod yn dyddio o’r bumed ganrif - ac wedi dod o bosib o Fryniau Wicklow yn Iwerddon. Cafodd y garreg, sy’n pwyso tri chwarter tunnell, ei symud o’r fynwent i mewn i’r eglwys yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.
Gosodwyd croglen dderw yn yr eglwys, yn fwy na thebyg yn ystod y bymthegfed ganrif. Mae’r trawst croes yn ei le o hyd, ac mae olion galeri o gyfnod diweddarach yn y pen gorllewinol. Pan adeiladwyd eglwys y plwyf newydd yn nhref Harlech ei hun yn 1840, cefnwyd yn llwyr ar eglwys St Tanwg – ond ni pheidiodd â bod yn fan arbennig, lle roedd modd dod o hyd i Dduw yn ei cherrig hynafol a’i harddwch di-nod.
Nant Peris, Gwynedd
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.
Mallwyd, Powys
Eglwys a sefydlwyd gan Sant Tydecho yn y 6g ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw.
Llanfaglan, Gwynedd
Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.