St Tysilio
Porthaethwy, Anglesey
Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.
Nant Peris, Gwynedd
Gerllaw’r fynwent, mae Ffynnon y Sant – a chredwyd bod y dŵr ynddi â’r gallu i iachau. Cadwyd dau bysgodyn ynddi. Os daethant o’u cuddfan at wyneb y dŵr, roedd hyn yn argoel ffafriol, felly roedd rhai ymwelwyr yn gollwng abwydau i’r dŵr i geisio denu’r pysgod i’r golwg. Credwyd bod rhai afiechydon yn cael eu gwella wrth i’r claf ymdrochi yn y dŵr, yn enwedig os oedd y pysgod yn dod i’r wyneb ar yr un pryd. I drin afiechydon eraill, roedd yn rhaid i’r claf yfed y dŵr.
Mae gan yr eglwys gyplau to o’r bymthegfed ganrif a chroglen o’r un cyfnod. Credwyd bod y blwch elusen (arian ar gyfer y tlodion), sydd wedi ei gerfio ym môn y groglen yn dod o’r ddeunawfed ganrif.
Mae cofeb yn yr eglwys sy’n deyrnged i Griffith Ellis, Hafoty, a fu farw yn 75 oed yn 1860 ar ôl iddo dreulio 46 o flynyddoedd yn arolygu chwareli llechi Dinorwig ger Llanberis. Cynyddodd nifer y gweithwyr o 300 i fwy na 2,400 yn ystod ei gyfnod fel rheolwr ac mae ei fedd i’w gweld yn y fynwent. Mae chwarelwr nodedig arall, Owen Griffith, wedi’i gladdu yno hefyd. Bu farw yn 89 yn 1908. Oherwydd amodau gwaith gwael, e.e. damweiniau, effaith llwch ar yr ysgyfaint a’r rheidrwydd i weithio ym mhob tywydd yn yr awyr agored, roedd y disgwyliad oes cyfartalog ar gyfer chwarelwyr yn isel. Eto’i gyd, gweithiodd Owen yn chwareli Dinorwig am bron i 80 mlynedd! Yr unig dro y cafodd hoe o’r chwarel oedd yn ystod y 1840au, pan gynorthwyodd gyda chloddio twnnel ar gyfer y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.
Mae peth o’r hen lwybr a ddefnyddiwyd gan addolwyr Llanberis yn dal i’w weld heddiw. I’r gorllewin i’r eglwys, mae’r llwybr yn croesi Afon Nant Peris ar hyd pont a godwyd, yn ôl y sôn, gyda chymorth Marged ferch Ifan, merch a oedd yn meddu ar gryfder anarferol. Mae’n debyg bod Marged yn arfer rhwyfo mwyn copr o Nant Peris i Gwm y Glo - pellter o 7km. Roedd hi’n arfer clymu ei chwch wrth biler carreg – a enwyd mewn teyrnged annwyl iddi, yn ‘Biler Marged’. Fe’i diddymwyd pan atgyweiriwyd y llyn wrth adeiladu gorsaf bŵer Dinorwig yn y 1980au.
Porthaethwy, Anglesey
Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.
Llanfaglan, Gwynedd
Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.
Rowen, Gwynedd
Mae’r capel yn adeilad rhestredig gradd II gyda chynllun anarferol ac yn gartref i arddangosfa o hanes lleol a hanes anghydffurfiaeth yng Nghymru.