Mae’n eglwys blwyf ganoloesol, wedi’i hadfer yn ofalus yn 1904 gan C Forde Whitcombe, gyda gwrthgefn allor heb ei baentio wedi’i gerfio o bren derw gan un o benseiri’r Mudiad Celfyddyd a Chrefft, John Coates Carter.
Mae Herbrandston yn un o’r pentrefi prin lle y dychwelodd yr holl ddynion a merched yn ddiogel o’r ddau ryfel byd yn ogystal â phob anghydfod ers hynny. Cyflwynwyd y gwrthgefn allor hardd i’r eglwys gan drigolion Herbrandston, yn arwydd o’u diolchgarwch.
Yn yr eglwys, mae corffddelw o farchog anhysbys o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, a dau gorbel ganoloesol ar y waliau y naill ochr i gorff yr eglwys. Maen nhw ar ffurf pennau dynol, gydag un yn gwisgo meitr a’r llall yn gwisgo coronet.