Er bod yr adeilad yn tarddu o’r drydedd ganrif ar ddeg, mae’n enwog am ei sgrîn enfawr o’r ganrif ganlynol, sydd â’i chroglofft wedi ei phaentio’n goch llachar. Mae tyllau bach pedeirdalen yn y paneli uwchben y sgrîn yn rhoi cipolwg o’r allor uchel yn y pen dwyreiniol, gyda’r rheiliau’r allor eu hunain yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae rhes o henebion syml a chain yn yr eglwys, yn ogystal ag ychydig o ddarluniau wedi’u paentio ar y waliau.
Yn unol â chynifer o eglwysi sy’n perthyn i’r Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, mae’r bobl leol yn defnyddio’r eglwys yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd a chyngherddau, ac mae Llaneleu yn chwarae rhan allweddol yng Ngŵyl Talgarth.
Mae’r groglen yn deillio o’r Oesoedd Canol, ac mae amlinell rithiol y groes a dynnwyd oddi arni yn ystod y Diwygiad Protestannaidd yn dal i’w gweld. Mae’r groglen yn cael ei hedmygu’n fawr gan ymwelwyr a phenseiri hanesyddol at ei gilydd.
Roedd aelodau’r Cyfeillion Eglwysi Digyfaill wrth eu bodd i ddarganfod cyfeiriad ati mewn ffuglen fodern boblogaidd. Yn Fervala (2015) gan Andy McNab, mae ei arwr Nick Stone yn ysgrifennu: 'I parked not far from the church at Llanelieu. I first spotted it when Trev and I had found our way out (of our hideaway on the western edge of the Black Mountains) and gone back later when I started getting excited by medieval history. God no longer pays St Ellyw's formal visits, even on Sundays and I wanted to see if the loft was still painted blood red'. Felly y mae o hyd!