PembrokeshireBAYVILStAndrewApostle(simoncopeCC-BY-SA2.0)1 SimonCope

Sant Andreas yr Apostol

Credir bod hon yn eglwys ganoloesol a gafodd ei hailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw olion gweladwy o’r cyfnod cynnar hwn wedi goroesi.

Y Beifil, Pembrokeshire

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol. Rhaid i ymwelwyr gofio i beidio â chloi defaid busneslyd yn yr eglwys.

Cyfeiriad

Y Beifil
Pembrokeshire
SA41 3XN

Mae gwerth yr eglwys ddirodres ond swynol hon yn y ffaith ei bod wedi goroesi fel eglwys Anglicanaidd Sioraidd diweddar, yn siambr sengl gwbl gyflawn gyda seddau ‘blwch’ a ffenestri Gothig. Nodweddion mwyaf deniadol yr eglwys yw’r ddarllenfa a’r pulpud paentiedig a phanelog. Mae’r pulpud mor uchel, mae ei seinfwrdd bron â chyffwrdd â’r nenfwd.

Mae yno set gyflawn o seddau blwch, a chofeb anghyffredin o gywrain i’w gweld o hyd ar y wal ddwyreiniol. Mae’r gofeb hon er cof am Morris Williams o Cwmgloyne ym mhlwyf Nyfer, a fu farw yn 1840. Gwelir yno hefyd fedyddfaen sgwâr cymharol ddinod sy’n dod o’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r eglwys wedi’i rhestru’n adeilad Gradd II*.

Contact information

Other nearby churches

Santes Fair

Maenclochog, Pembrokeshire

Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.

St Carannog

Llangrannog, Ceredigion

Eglwys hyfryd iawn a sefydlwyd yn y chweched ganrif. Datblygodd y pentref – sy’n enwog am ei draeth a’i bysgod a sglodion blasus – o’i hamgylch.

Sant Eloi

Llandeloi, Pembrokeshire

Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.